Annwyl Berwyn,
Mae Bruce hefyd dan yr argraff mai yn Gymraeg yr ysgrifennwyd y Testament
Newydd yn wreiddiol! Gyda phob parch, chwilio yr oeddwn am rywbeth i
ddangos bod Cymro/Cymraes wedi dweud rhywbeth gwreiddiol ar y pwnc.
Mae hyn yn codi cwestiwn arall, yn fwy addas, o bosibl, ar gyfer grwp trafod
y Gymdeithas, sef effaith dyfyniadau o'r Beibl y dyddiau hyn. Yn yr achos
hwn, gallai roi'r argraff mai ymgyrch yr Eglwysi yw'r Cynllun, yn hytrach
nag un seciwlar, a dw i'n ofni y gall hyd yn oed bod yn "turn-off" i rai, yn
hytrach na chyfleu awdurdod. Dw i'n digwydd gwybod yn yr achos hwn, beth
bynnag, fod un o brif swyddogion y Cynllun yn Iddew.
Mae'r byd wedi newid, ond er hynny, teimlais fod y canlynol, a ddaeth y bore
'ma gan y gymdeithas rhwymo llyfrau 'dyn ni'n aelodau ohoni, yn fwy heriol
na doniol:
"Christmas Luncheon: Join us for a traditional celebration of a successful
year of activities in our society, and of course the northern hemishpere
midwinter solstice."
Cofion,
Ann
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, August 12, 2004 8:28 AM
Subject: Re: Ysbrydoliaeth Gymraeg/Gymreig
> Cyn gynted ag y gwelais i'r dyfyniad cynta, daeth yr adnod i'm meddwl a
dyma
> dybio, felly, nad oedd angen i neb ei aralleirio - roedd yr adnod yn
ddigon!
>
> Berwyn
>
|