A oes 'na rai sy'n gorfod ymdopi a^'r term hwn ym maes cynllunio? Weithiau
mae'n golygu y byddai'r adeilad newydd yn edrych dros adeilad sydd yno
eisoes, weithiau'r ffordd arall rownd, ac weithiau'r ddwy ffordd - ac wrth
gwrs weithiau mae mwy nag un adeilad yn mynd i edrych dros y llall, neu gael
y llall yn edrych drostynt.
'Rwyf wedi bod yn defnyddio amrywiadau ar "y ffaith bod y naill adeilad yn
edrych dros y llall", ond byddai'n dda gen i gael rhywbeth byrrach (ac eto'n
naturiol) a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer pob achos, yn arbennig mewn
achosion pan nad yw'r testun yn egluro'n union beth sy'n digwydd.
Rhaid cyfaddau, 'dw i'n amau'n fawr a yw hyn yn bosibl!
Diolch yn fawr,
Ann
|