On Tue, Jul 06, 2004 at 07:53:43PM +0100, Berwyn Jones wrote:
> Fyddai hi'n bosib dweud 'sy'n llefaru('r testun)' neu 'sy'n gwe-lefaru'? Neu
> os yw'n sôn yn bendol am wefan, 'gwefan lafar'?
Mae angen cyfeirio at y broses 'enabling' rhywsut, ond mae'n golygu
pethau gwahanol mewn meysydd gwahanol.
h.y. 'speech-enabling software'
meddalwedd sy'n gallu llefaru NEU adnabod llais e.e. arddywediad
hefyd 'speech-enabling a website'
galluogi gwefan i lefaru'r (testun)
Ond dyw hyn ddim yn berffaith - mae angen cyfeirio at y ffaith fod y
wefan (neu beth bynnag) yn cael ei addasu er mwyn hwyluso llefaru'r
testun gan rywbeth arall (meddalwedd o fewn y porwr), ond nid y wefan
ei hun sydd yn gwneud fel arfer.
A mae 'speech-enabling a phone system' yn beth gwahanol eto -
galluogi system ffon (neu ffon symudol) i ddeall gorchmynion llais.
|