> Wrth son am wefan "...which to date recieves 57,090 page impressions per
> day..."
>
> Dyma'r diffiniad a gefais i ar google:
> Occurs every time a particular Web page is displayed by someone using the
> Internet. A page impression is similar to a "hit," except that a hit is
> also registered when a spider, or similar program, accesses the Web page.
Mae'r diffiniad yma ychydig yn niwlog. Mae 'page impression' yn golygu
y casgliad o ffeiliau a graffeg i arddangos un tudalen gwe (a mae yna
ffordd o gysylltu hyn a defnyddiwr unigol).
Mi all gofyn am un dudalen olygu fod 10 gofyniad i'r wefan er mwyn
llwytho'r cynllun, graffeg a lluniau ond dim ond un sy'n cael ei gyfri
i'r argraffiad.
Mi fyddai 'argraffiadau tudalen' yn ddigon addas.
Dwi wedi gweld 'ymweliadau â thudalennau' hefyd, ond dyw hyn ddim mor
gywir yn ystadegol. Mae'n bosib i ddefnyddiwr ail-ymweld a thudalen
nifer o weithiau heb i'r wefan wybod, os yw'r dudalen yn y cof.
|