Efallai, os wyt ti eisio rhywbeth cryfach, nid y gair "paratoi" sy'n
rhy ddof, ond "pwrpas". Beth am "paratoi i ddefnyddio'n rhywiol"?
--Mark
> dwi ddim yn gweld fawr o'i le hefo dy gyfieithiad. Paratoi fyddwn i'n
> ei ddefnyddio hefyd. Mae'r gair grooming yn y cyd-destun hwn wedi
> magu'r ystyr seicolegol yn tydi....nid oedd ystyr seicolegol o gwbl
> i'r gair ynddo'i hun yn wreiddiol (er bod ei wreiddiau yn ansicr yn ol
> fy Chambers!). Pwy, tybed, sydd yn meddwl nad yw paratoi yn ddigon
> cryf......pobl sydd heb arfer "paratoi" yn y cyd-destun penodol,
> efallai. Mae paratoi i bwrpas rhyw yn swnio'n iawn i mi ac o'i arfer,
> bydd yr elfen seicolegol yn ddealladwy, fel mae yn y Saesneg. Fedra i
> ddim meddwl am unrhyw air HEBLAW paratoi fyddai'n gwneud y tro, a
> dweud y gwir...Mae rhagbaratoi yn y Thesawrws Cymraeg - a fyddai'r
> elfen rhag yn rhoi mwy o awgrym o fwriad y broses arswydus hon, tybed?
> Cyfleu y blynyddoedd mae'n ei chymryd, weithiau.... magi
>
> ----- Original Message -----
> From: Puw, John
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, June 18, 2004 02:11
> Subject: Sexual Grooming
>
> Gyfeillion Mae'r uchod yn broses ych a fi sy'n digwydd ar y
> rhyngrwyd, mewn ystafelloedd sgwrsio, ac wyneb yn wyneb gyda
> merched a bechgyn i'r pwrpas o'u cael i ymuno â'r diwydiant rhyw
> fel puteiniaid ac fel perfformwyr mewn sioeau a ffilmiau
> pornograffig, neu er mwyn i'r troseddwr gael rhyw fath o fudd
> rhywiol. Mae fy ngwraig yn gweithio llawer yn y maes amddiffyn
> plant (o safbwynt meddygol) ac yn gyfarwydd iawn â'r term
> "grooming", ond heb ei glywed yn cael ei drafod yn Gymraeg.
>
> "Paratoi i bwrpas rhyw" oedd gen i, ond mae barn nad yw paratoi
> yn ddigon cryf gan fod y broses yn cynnwys gweithio ar seicoleg y
> dioddefwyr er mwyn eu llywio i unrhyw gyfeiriad mae'r troseddwr
> yn ei ddewis.
|