Dyna oedd sylw Bruce hefyd, pan ofynnais iddo dros ginio, ac ychwanegodd ei
bod yn ymddangos y byddai "adeiliadwy" > "adeiliadwyedd" yn iawn hefyd.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, June 15, 2004 2:17 PM
Subject: Re: buildability
> Yn ôl GPC mae "adeilaf" ac "adeiliaf" yn ffurfiau ar y ferf hefyd ac
> felly gellir ychwanegu "adwy" at y bôn "adeil" i wneud "adeiladwy".
> Mae gan Williams Pantycelyn emyn sy'n cynnwys y llinellau:
> "Calfaria fryn yw'r unig sail
> adeilaf arno mwy;"
>
> Hwyl
> Siân
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
> Ualghairg
> Sent: 15 June 2004 13:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: buildability
>
> "A ydw i'n iawn felly bod yn rhaid cael enw neu ferf *cyn*
> y terfyniad '-adwy' ac y byddai 'adeiladwy' yn anghywir am fod yr 'ad'
> yn
> *rhan* o'r terfyniad 'adwy' ac felly yr hyn sydd gennym yma yw 'adeil'
> (sydd
> ddim yn air nac yn ferf) ac 'adwy'? Dyma sy'n fy rhwystro rhag defnyddio
> 'adeiladwyedd' ar hyn o bryd..."
>
> Mae Geiriadur Prifysgol Cymru'n rhoi 'Adeiladwy' = "y gellir ei godi neu
> ei
> saernio' that can be built.
>
> Muiris
>
>
|