Yn ôl GPC mae "adeilaf" ac "adeiliaf" yn ffurfiau ar y ferf hefyd ac
felly gellir ychwanegu "adwy" at y bôn "adeil" i wneud "adeiladwy".
Mae gan Williams Pantycelyn emyn sy'n cynnwys y llinellau:
"Calfaria fryn yw'r unig sail
adeilaf arno mwy;"
Hwyl
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 15 June 2004 13:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: buildability
"A ydw i'n iawn felly bod yn rhaid cael enw neu ferf *cyn*
y terfyniad '-adwy' ac y byddai 'adeiladwy' yn anghywir am fod yr 'ad'
yn
*rhan* o'r terfyniad 'adwy' ac felly yr hyn sydd gennym yma yw 'adeil'
(sydd
ddim yn air nac yn ferf) ac 'adwy'? Dyma sy'n fy rhwystro rhag defnyddio
'adeiladwyedd' ar hyn o bryd..."
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru'n rhoi 'Adeiladwy' = "y gellir ei godi neu
ei
saernio' that can be built.
Muiris
|