... a banana?!
Rydw i'n cofio gwneud un o'r rhain flynyddoedd yn ôl yn y dyddiau pan o'n
i'n mwynhau coginio, felly roedd gen i fantais dros John! Dim co be galwais
i hi chwaith ... rhyw eisin crensiog drosti os dw i'n cofio'n iawn. Wnes i
'rioed moni wedyn.
Beth am 'Cacen y Groglith'?
Glenys
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 13, 2004 5:00 PM
Subject: Re: 'passion cake'
Ie, ond mae Cacen y Pasg yn awgrymu Cacen Simnel sydd â marsipan ar ei
phen ac wyau bach marsipan ar ben hwnnw - ond dim o anghenraid, mae'n
debyg, yn ôl Google!
Ond mae'n debyg bod gwahaniaeth rhwng Easter Cake a Passion Cake - moron
yn un peth! Pam na cha i ddweud "cacen foron"?!
O diar
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M
Roberts
Sent: 13 May 2004 16:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 'passion cake'
Mi allech chi roi 'cacen y Dioddefaint' ond efallai na fyddai neb yn ei
bwyta wedyn! 'Cacen y Pasg' efallai.
Glenys
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 13, 2004 3:22 PM
Subject: 'passion cake'
A oes enw Cymraeg? Dydi'r cwsmer ddim eisiau dweud "cacen foron".
cofion
siân
|