> Bathais y term 'crynoluniau' rai blynyddoedd yn ôl, ond rwyf innau wedi gweld 'cipluniau' yn cael ei ddefnyddio ers hynny.
Fel wnaeth Tim ddweud yn breifat, defnyddir cipluniau ar gyfer
'snapshot' hefyd a dyna, yn bersonol, mae 'ciplun' yn awgrymu i mi
hefyd.
Yn nghyd-destun TG, mae angen cadw ystyr 'snapshot' ar gyfer defnydd
penodol (e.g. cipio llun o gamera gwe sydd ymlaen drwy'r amser, neu
storio stad rhaglen neu gyfrifiadur cyfan i'r disg er mwyn gallu
ail-ddechrau o'r un pwynt.)
Felly mae crynoluniau yn edrych yn well dewis. Mae penbwrdd KDE wedi
dewis 'rhagolwg cryno', gyda llaw ond dwi ddim yn hoff wedyn o'i
defnydd o 'rhagolygon cryno' (Jeni'n dweud y tywydd mewn 5 eiliad?).
|