Er gwybodaeth, "cryno gampfa" y penderfynwyd ei ddefnyddio am y term
hwn.
Diolch am y cymorth, (i rywun sy'n hollol anghyfarwydd â phethau'n
gysylltiedig â ffitrwydd !!!)
Meleri Hughes
Cyfieithydd
Cwmni Cynnal
01286 679308
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John Puw
Sent: 13 May 2004 13:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: multi-gym
Mae ambell fath o gampfa gryno'n cynnwys offer gwthio, tynnu, gwasgu,
codi, eistedd, plygu a phob peth cas arall fedar dyn neu ddynes ei wneud
i'r amryfal grwpiau cyhyrau yn eu cyrff . Mae'r "peiriant" yn gwneud yr
union yr un pwrpas â'r adeilad mawr, oni bai fod un cylchdro o'i gwmpas
yn cymryd pum eiliad yn hytrach na phum munud, ac nad yw'n bosibl dringo
rhaffau pan fydd cefn yr athro wedi ei droi gan nad oes lle i hongian
rhaffau arno.
Roedd 'na un newydd sbon danlli mewn ystafell eitha bach yn hen adeilad
y chweched yn ysgol Tywyn pan oeddwn i yno yn y 70au (y ganrif dwytha,
nid yr un cynt) - ochr arall i'r ysgol i lle'r oedd y gampfa go iawn.
Ond roedd y gampfa gryno yn boblogaidd iawn 'radeg honno ymysg ni hogia
oedd yn ceisio tyfu cyhyrau mwy er mwyn denu'r genod. Y drwg oedd,
roedd yr hogla chwys yn gwneud iddyn nhw lewygu! Roedd 'na un neu ddau
o'r hogia wrth gwrs yn ddigon gwirion i gredu taw maint y mysyls oedd
wedi achosi'r llewyg, ond roedd y genod yn gallach na hynny!
Gyda llaw, diolch am dy awgrym Geraint.
Rwan 'dw i am fynd i wneud rhywbeth am fy niffyg cyhyrau!
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 13, 2004 11:01 AM
Subject: Re: multi-gym
> [log in to unmask]:
>
> >neu 'gampfa gryno' yn well fyth.
> >
> >"Dwi'n mynd i'r gampfa gryno" yn swnio'n fwy naturiol/debygol o gael
> >ei lefaru na "Dwi'n mynd i'r gryno-gampfa".
>
> Ond ydy "campfa" yn addas gan gofio mai peiriant ac nid lle sy dan
> sylw? Peiriant gwrthiant ( ai dyna beth yw "resistance machine" ? )
> sy'n gallu cael ei ddefnyddio mewn mwy nag un ffordd i weithio grwpiau
> gwahanol o gyhyrau yw e. Maen nhw ar gael ar gyfer y cartref yn
> ogystal a'r gampfa.
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
|