Efallai bod yr ymateb hwn yn 'dwpach na thwp'! Ond onid doeth fyddai cael
gair am 'requisition' y gellid ei ddefnyddio pe bai yn y dyfodol yn dod o
ryw gyfeiriad arall gwahanol eto (h.y. heb orfod nodi'r cyfeiriad bob tro)?
Glenys
----- Original Message -----
From: "Ann Wiliam" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 12, 2004 12:32 PM
Subject: Re: requisition
Wn i ddim ydi hwn yn syniad twp ai peidio!
Yn y bôn yr un peth yw 'summons' a 'requisition' ond eu bod yn dod o
gyfeiriad gwahanol - y cyntaf o Lys
Ynadon a'r ail oddi wrth erlynydd cyhoeddus. Tybed fyddai hi'n dderbyniol
cyfieithu 'requisition' fel 'gwys/gwysiad erlynydd' neu 'gwys/gwysiad
erlynydd cyhoeddus' ac wedyn fyddai yna ddim amheuaeth o'r ystyr?
Ann
This message has been checked for all known viruses by Norton Antivirus.
|