Mae gen i ryw frith gof i ni ddod ar draws y gair yma yn San Helen ac rwy
bron yn siwr mai rhywbeth fel 'person a benodir' neu rywbeth tebyg a
ddefnyddiwyd er nad oedden ni'n berffaith fodlon ar hynny!
Nia
> ----------
> From: Ann Corkett[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 20 May 2004 14:28
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: appointeeship
>
> Mae Bruce yn dweud bod "penodedigaeth" yn "berffaith bosibl"!
>
> Yr unig dro y bu'n rhaid imi ei gyfieithu, defnyddiais "bod yn benodedig".
> Mi all weithio, yn ol y cyd-destun:
> "Specialist day focused on learning disability and legal issues e.g.
> consent
> / appointeeship (adults and children)"
> " Diwrnod arbenigol yn canolbwyntio ar anableddau dysgu a chwestiynau
> cyfreithiol e.e.cydsyniad / bod yn benodedig (oedolion a phlant)"
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, May 20, 2004 12:06 PM
> Subject: appointeeship
>
>
> > Oes gan unrhyw un derm y mae wedi'i ddefnyddio am yr uchod os gwelwch yn
> > dda? Mae GyrA yn cynnig 'penodedig' am 'appointee', felly a fyddai'n
> iawn
> > defnyddio 'penodedigaethau' am yr uchod......?!?*?$%^?! (Apprenticeship
> =
> > Prentisiaeth / Receivership = Derbynyddiaeth) ?
> >
> >
> >
> > Diolch yn fawr ymlaen llaw am unrhyw gynigion,
> >
> >
> >
> > Garmon
> >
> >
> >
> > O.N.
> >
> >
> >
> > Newydd geisio chwilio yn TermCymru ond nid yw ar gael ar y funud. Mi
> > edrychais wedyn i weld a oedd tudalennau eraill ar wefan y Cynulliad yn
> > gweithio a gweld bod y wefan wedi cael ei hailwampio'n gyfan gwbl. O
> leiaf
> > mae'r blwch 'Teip Testun' afiach hwnnw i'w weld fel pe bai wedi
> diflannu!!
> >
> >
> >
> > Garmon Davies
> >
> > Ewrolingo
> >
> > +44 (0) 1656 668603
> >
> > <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk
> >
> >
> >
> >
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|