A allech roi unrhyw awgrym o thema'r gynhadledd?
Megan Tomos
Judith Kaufmann Swyddog Prosiectau/Project Officer Cymdeithas Cyfieithwyr
Cymru (The Association of Welsh Translators and Interpreters) 01248 371839
----- Original Message -----
From: "Andrew Hawke" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, May 28, 2004 1:58 PM
Subject: Cynhadledd 'Cerrig Milltir' - Galwad am bapurau
'CERRIG MILLTIR'
CYNHADLEDD RYNGWLADOL
CANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD
PRIFYSGOL CYMRU 2005
Aberystwyth, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2005
GALWAD AM BAPURAU
[Ymddiheurwn os derbyniwch fwy nag un copi o'r neges hon.
A fyddech mor garedig â'i hanfon ymlaen at y sawl a all fod â diddordeb?]
http://www.aber.ac.uk/canolfangeltaidd/c/CerrigMilltir2005.html
THEMA'R GYNHADLEDD
I ddathlu ei hugeinfed pen blwydd bydd y Ganolfan yn cynnal cynhadledd
ryngwladol bwysig ar y testun 'Cerrig Milltir', thema sy'n cynnig cyfle i
ysgolheigion drafod trobwyntiau arwyddocaol yn natblygiad archaeoleg,
hanes, ieithoedd, llenyddiaethau a hunaniaeth genedlaethol Cymru a'r
gwledydd Celtaidd eraill mewn unrhyw gyfnod.
PWYLLGOR Y GYNHADLEDD
Vera Bowen, Catherine Charnell-White, Mary-Ann Constantine, Marian Hughes,
Geraint Jenkins, John Koch, Barry Lewis, Ann Parry Owen.
SIARADWYR Y SESIYNAU LLAWN
Jane Aaron, Barry Cunliffe, Sioned Davies, R. J. W. Evans, Dafydd
Johnston, Richard Wyn Jones, Catherine McKenna, Prys Morgan, Pádraig Ó
Riain, Murray Pittock, Chris Williams.
CYFRANIADAU
Estynnir gwahoddiad cynnes i siaradwyr i anfon crynodeb 250-gair o'u
papurau at yr Athro Geraint H. Jenkins, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiau
Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH neu drwy e-bost i'r cyfeiriad
[log in to unmask] Y dyddiad cau ar gyfer derbyn crynodebau: 16 Rhagfyr 2004.
Cynhelir sesiynau adrannol Cymraeg a Saesneg, a darperir gwasanaeth
cyfieithu yn y prif ddarlithoedd a draddodir yn Gymraeg.
COFRESTRU A LLETY
Anfonir gwybodaeth ynghylch cofrestru a llety at siaradwyr ac at unrhyw un
sy'n dymuno mynychu'r gynhadledd. Cysyllter â Ms Vera Bowen, Trefnydd y
Gynhadledd, yn y Ganolfan, ffôn: 44 [0]1970 626717, ffacs: 44 [0]1970
627066, e-bost: [log in to unmask], a darperir manylion llawn yn nes
ymlaen ar wefan y Ganolfan: www.cymru.ac.uk/canolfan.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Dr Ann Parry Owen
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH
ffon: +44 (0)1970 626717 ffacs: +44 (0)1970 627066
e-bost: [log in to unmask], y we: www.cymru.ac.uk/canolfan
|