Mae elfen gref iawn o orfodaeth yn poertjhyn i 'archiad' - dim dewis ond
ufuddhau
Gwynallt
----- Original Message -----
From: "Glenys M Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 12, 2004 10:03 AM
Subject: Re: requisition
Diolch yn fawr ichi i gyd am eich sylwadau, ac i Ann am fynd i'r drafferth o
gysylltu â RL. Roeddwn yn ffafrio 'archiad' neu 'galwad' (er bod 'galwad'
braidd yn 'feddal' efallai?!), ond rwy'n teimlo y dylem ddilyn RL gan mai ef
yw'r arbenigwr yn y maes. Ond cyn gwneud hynny mi faswn yn hoffi gwybod a
yw John a Bet yn cytuno. (Efallai y bydd hyn yn golygu rhywbeth iddyn nhw -
cyfieithiad i ddiweddaru'r ffurflenni 'MG' (Manual of Guidance) yw hwn.)
Glenys
----- Original Message -----
From: "Ann Wiliam" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, May 11, 2004 3:53 PM
Subject: Re: requisition
Hwyrach fod y neges wnes i yrru 2 awr yn ôl wedi mynd ar goll. Rwyf wedi
ymgynghori â Robyn Lewis a dyma oedd ei gyngor.
Mae'n teimlo fod 'archiad' ychydig yn hen ffasiwn ac nad oes digon o rym
i 'galwad'. 'Gorchymyn' yw'r cyfieithiad mae o yn ei ffafrio gan mai "an
official form on which a demand is made" yw ystyr 'requisition' yn y
cyswllt hwn. Byddai'n dderbyniol wedyn cyfieithu "You are required...." yng
nghorff y ddogfen fel "Mae galw arnoch ...." neu "Gelwir arnoch .........."
Ann
|