Diolch yn fawr iawn Ann, Bruce a Geraint. Doeddwn i ddim yn gallu gweld beth
fyddai ystyr 'pres' yma ychwaith, ond mae 'Prysgoed' yn sicr yn gwneud
synnwyr.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 08 April 2004 12:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Prescoed
Rhaid mai "g", nid "c" yw'r llythyren, meddai Bruce. Mae'n teimlo'n weddol
sicr, hefyd, mai Prysgoed fyddai'r enw Cymraeg, er nad oes ganddo ddim llyfr
i ategu hynny.
Ann
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 08, 2004 12:20 PM
Subject: Prescoed
Rwyf wrthi'n cyfieithu darn sy'n cyfeirio at garchardai yn 'Usk' a
'Prescoed'. A ydw i'n iawn mai 'Brynbuga' a 'Prescoed' yw'r rhain? Fy rheswm
dros ofyn yw fy mod yn cael llinell goch o dan 'Prescoed' gan y gwirydd
sillafu yn Word.
Gyda llaw, os oes arnoch eisiau rhywbeth i godi (neu dorri!) eich calon,
gweler http://www.homeoffice.gov.uk/docs/wysg00.pdf Anhygoel!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
<http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk
|