Byddwn i'n tybio mai'r cyfieithiad gorau fyddai 'enw sy'n gyfarwydd i bawb/i
bob aelod o ...' gan fod hynny'n goresgyn problem cyfieithu'r sylw crafog am
Iain Duncan Smith (rwy'n meddwl) pan ymgeisodd am arweinyddiaeth ei blaid.
Dywedodd rhyw wag caredig amdano 'He's not a household name, not even in his
own household' ('dyw ei enw ddim yn gyfarwydd i bawb, ddim hyd yn oed i bawb
yn ei deulu/i bob aelod o'i deulu').
Berwyn
----- Original Message -----
From: "anna" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 08, 2004 8:21 PM
Subject: household name
> Cytuno, ond fel arfer pan fydd y geiria'n dwad ar y mhlat i, rhywun
> adnabyddus iawn ydi'r ystyr - nid Pws, neu yn f'achos i, Eigg, Elvis,
> Sylvester neu Pussy Nancy. Y syniad ddaeth i mi wedyn yn hwyr hwyr
neithiwr
> oedd 'ar enau pawb'. Muiris yn ei lecio. Siwr gin i allan ni ddefnyddio
dau
> beth - un ar gyfer rhywbeth cyffredin a'r llall i gyfleu pobol enwog.
> Wedi'r cyfan, dan ni fel arfar yn gorfod defnyddio sawl gwahnaol beth lle
> mae'r Saeneg yn defnyddio un, tydan (a vice versa weithia)
>
> Annes
----------------------------------------------------------------------------
----
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.577 / Virus Database: 366 - Release Date: 03/02/04
>
|