Meddwl y dylwn i nodi imi ddefnyddio 'cyllid prawf o gysyniad' am 'proof of
concept funding' fel cysyniad fel petai. Ond derbyn dadl David wrth gwrs ac
wedi rhoi 'Wrth fwrw ymlaen ag unrhyw raglen i gyllido profi cysyniadau yng
Nghymru...' mewn un man. Cewch wybod os caf oleuni pellach gan y client.
Diolch am y cyfraniadau.
Mwynhewch y penwythnos braf sydd i ddod, medden nhw.
Glenys
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 22, 2004 2:38 PM
Subject: Re: proof of concept
> Ydy hi'n deg dweud bod pobl yn mynd ati i "brofi cysyniad" newydd sydd
wedi
> codi yn eu gwaith (sy'n golygu bod rhaid cael berf)?
>
> Ydyn nhw wedyn ar ddiwedd y gwaith profi yn gorffen gyda phrawf bod y
> cysyniad yn ddibynadwy ac yn haeddu cael ei droi yn eitem i'w gwerthu yn y
> farchnad? (Neu brawf bod y cysyniad yn ddiwerth a bod eu gwaith ymchwil
wedi
> bod yn ofer!)
>
> Byddech chi'n gallu gofyn wedyn 'Beth yw'ch prawf chi o'r cysyniad yma',
yn
> union fel y byddech yn gofyn 'Beth yw'ch profiad chi o'r cysyniad?' neu
> 'Beth yw'ch argraff chi o'r cysyniad?'. Mae cwestiynau fel hyn yn awgrymu
> bod lle hefyd i'r ymadrodd 'prawf o gysyniad'.
>
> Pe baech chi'n ysgrifennu paragraff i ddisgrifio'r broses o brofi un
> cysyniad penodol, "Profi'r Cysyniad' fyddai'ch pennawd chi wedyn, ond pe
> baech chi'n ysgrifennu'n fwy cyffredinol, er enghraifft i ddweud bod y
> broses yma yn hanfodol cyn ichi gael dim arian cyhoeddus i'w fuddsoddi yn
> eich cysyniad, wel 'Profi Cysyniadau' fyddai'n addas wedyn, efallai?
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of GLENYS ROBERTS
> Sent: 22 April 2004 13:35
> To: David Bullock
> Subject: Re: proof of concept
>
> Diolch yn fawr Rhys. Mae Google yn cael hyd i 4 'prawf cysyniad', 2
'prawf
> o gysyniad' a 4 'profi cysyniad' gan gynnwys dogfen gan Raglen Ddeillio
> Cymru, 'Profi Cysyniad Deillio'. Well inni gynnal pleidlais?! (Mae gen i
> tan yfory i benderfynu!)
> G
> ----- Original Message -----
> From: "Rhys Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, April 22, 2004 1:11 PM
> Subject: Re: proof of concept
>
>
> > On Apr 22, GLENYS ROBERTS wrote/Ar Apr 22, ysgrifennodd GLENYS ROBERTS:
> >
> > > Ie, o bosib. 'Proof of concept funding' yw'r ymadrodd sy gen i.
> >
> > "Prawf cysyniad" ddefnyddiwyd gan y sawl gyfieithodd safle gwe KEF.
> > Cymharer:
> >
> > http://www.kef-wales.org.uk/main.cfm?lang=we&main_nav=patent
> > http://www.kef-wales.org.uk/main.cfm?lang=en&main_nav=patent
> >
> > (chwilier am "Cam Dau"/"Stage Two", wedyn yr ail baragraff o dan
> > y pennawd hwnnw).
> >
> > Gobeithio fod hyn o gymorth,
> > Rhys
> > --
> > http://www.wibsite.com/wiblog/backburner/ http://www.sucs.org/~rhys/
> >
>
|