Pan oeddwn yn dysgu (sawl blwyddyn yn ôl bellach, diolch i'r drefn) roeddwn yn clywed ein hannwyl Brif Artho yn ynganu'r gair "ffocysu" yn foreol (roedd fy nwylo yn crynu wrth deipio'r gair!!). Doeddwn i ddim yn hoff iawn o'r dyn ar y gorau, ond sawl tro, teimlais fel taflu rhywbeth ato am ei ddefnyddio. Mae'n GAS GAS GAS gen i unrhyw ffurf ar ffocws. Mae'n beryg taw rhagfarn bersonol ydi hon, ond plis gawn ni ddefnyddio rhyw ffurf ar "canolbwyntio" - a fedra i weld dim byd yn bod ar Canolbwyntiedig ychwaith (newydd weld neges Berwyn), yn arbennig mewn cymhariaeth â'r amrywiaeth arall eto fyth ar air hyll o adnabyddus a rhyngwladol!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 01 March 2004 12:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: focused
Mae'r cyfan yn bosibl wrth gwrs, er nad ydw i'n hoff iawn o 'ffocysedig', 'ffocysu' ac ati. Rydw i wedi defnyddio 'dysgu penodol' yn y gorffennol. Glenys
----- Original Message -----
From: "Alison Reed(Welsh Translator)" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 01, 2004 12:26 PM
Subject: focused
Cyd-destun: addysg
e.e. focused learning, focused discussion
Oes modd defnyddio 'â ffocws', 'ffocysedig', neu ydy hi'n well cadw at y berf 'canolbwyntio' a defnyddio rhywbeth fel 'dysgu trwy ganolbwyntio', 'trafod gan ganolbwynio'??
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
|