I ateb cwestiwn John ynghylch gofal cychwynnol/gofal sylfaenol:
dewis y Cynulliad yw "gofal sylfaenol". Yn anffodus, nid yw'n adlewyrchu
natur y gofal - yn ol y gwasasnaeth iechyd, mae'r gofal yma yn
soffistigedig iawn bellach, ac yn cynnig amryw o driniaethau a oedd o'r
blaen yn cael eu cynnig mewn ysbyty yn unig, ond sydd yn awr ar gael
drwy'r feddygfa leol. Mae'n drueni nad yw'r Cynulliad wedi dilyn y term
"gofal cychwynnol" sydd wedi'i arddel ers blynyddoedd o fewn y
gwasanaeth iechyd ac wedi'i safoni gan Bwyllgor Termau Awdurdod Iechyd
Gogledd Cymru (bellach Pwyllgor Termau Byrddau Iechyd Gogledd Cymru) ar
y cyd gyda'r Ganolfan Termau ym Mangor - gw. e.e. Termau Hybu Iechyd
ISBN 1-84220-009-7. Fe drafodwyd y term hwn eto mewn Pwyllgor Termau yn
ddiweddar, a phenderfynu glynu wrth "gofal cychwynnol" am ei fod yn
gywirach - os oes angen gofal pellach, mae'r claf yn cael ei basio
ymlaen at wasanaethau eraill. Rwy'n deall fod y Tasglu Iechyd am bwyso
ar y Cynulliad i newid eu defnydd o'r term.
Delyth
Ysgrifennodd Puw, John:
> Ydi gofal sylfaenol wedi disodli gofal cychwynnol am primary care erbyn
> hyn? Cychwynnol oedd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru yn ei ddefnyddio pan
> oeddwn i'n gweithio yno, ond efallai fod pethau wedi newid erbyn hyn.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 26 March 2004 15:54
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: community orientated primary care
>
> Gofal sylfaenol - termcymru am 'primary care'
> market **orientated** - termcymru - sy'n ymateb i ofynion y farchnad
>
> felly
>
> "Gofal sylfaenol sy'n ymateb i ofynion y gymuned"
>
> yn drwsgl a hir, mi wn, ond mae'n fan cychwyn i rywbeth arall fel
>
> Gofal sylfaenol sy'n ymateb i'r gymuned .....
>
> Muiris
>
> ----- Original Message -----
> From: Pennawd Cyf. <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Friday, March 26, 2004 3:46 PM
> Subject: community orientated primary care
>
> Rhaid i'r cyfieithiad fod yn gryno, oherwydd mae'r ymadrodd yn
> digwydd mewn brawddegau sydd eisoes yn eithaf cymhleth.
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.639 / Virus Database: 408 - Release Date: 22/03/2004
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
> yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the
> view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may
> be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|