Mae "Llwyd y Twyni" yn swnio'n reit dda i mi'n bersonol. Mae'n hawdd ei
gofio a'i yngan. (Efallai y byddai "Llwyd o'r Bryn" yn bosibilrwydd
diddorol hefyd)!
Ond yn ddiau yr enw gwyddonol sydd bwysicaf i'r entomolegydd. Wrth drafod
gwyfynod yn swyddogol defnyddir yr enw Lladin yn ogystal a'r saesneg, bob
tro; ni ddefnyddir yr enwau Saesneg mewn gwledydd eraill, megis yr
Iseldiroedd er enghraifft, y Lladin a ddefnyddir, ac mae'r drafodaeth yn
fyd-eang y dyddiau hyn.
Ym Mhrydain, er bod enwau Saesneg yn bodoli ar ran fwyaf o'r 900 math o
macrolepidoptera, sef y gwyfynod mwyaf a'r glo˙nnod, nid oes enwau Saesneg
ar y mwyafrif o'r microlepidoptera, sef y gwyfynod llai eu maint (mwy na
heb), ac mae mwy o lawer o'r rheiny o gwmpas. Ni chlywais am neb sydd yn
bwriadu bathu rhai chwaith.
Bathwyd yr enwau Saesneg gan entomolegwyr, ac yn wir maent ychydig yn
hawddach i'w cofio na'r Lladin; ond rhaid gofyn, a oes wir angen cael
enwau Cymraeg ar y rhain i gyd? Ac os felly, ar ba rai - dim ond y rheiny
sydd ag enw Saesneg; ynteu'r rhai sydd o ddiddordeb arbennig i Gymru (fel
y Sandhill Rustic); ynteu'r cwbwl lot?
Os y cyfan o'r macrolepidoptera, yn unol a'r rhai Saesneg, mae'r enwau
Saesneg yn fan cychwyn defnyddiol, ond nid oes raid cael trosiad syml o'r
enw Saesneg ar bob un, yn enwedig os oes enw mwy addas yn y Gymraeg (megis
rai o'r enwau Cymraeg yn y gyfrol "Butterflies of Gwynedd", er
enghraifft). Mympwyol ydynt yn y gwraidd, wedi'r cyfan.
Dafydd
On Wed, 24 Mar 2004 15:32:54 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]>
wrote:
>Gair o rybudd: y mae naturiaethwr a arbenigodd ar astudio gwyfynod, neu
>flodau, neu adar neu ba beth bynnag y bo, yn debyg o fod yn "gwybod ei
>bethau", ond nid yw'n dilyn o gwbl ei fod yn "gwybod ei bethau" wrth fathu
>enw Cymraeg ar unrhyw beth. Gydag ambell eithriad anrhydeddus, mae'r rhan
>fwyaf o arbenigwyr yn ddi-glem pan ddaw'n fater o awgrymu enw - gwelais
>restr o enwau gwyfynod a oedd yn llawn enwau mympwyol, barddonllyd,
anghyson
>a'i gilydd ac yn berwi o wallau cenedl a chamsillafiadau. Ni ddylid
>defnyddio'r rhestr ar chwarae bach ac yn anffodus rhaid aros i gymdeithas
>Edward Llwyd gyhoeddi rhestr safonol.
>
>Ceir sawl math o "rustic moth", llawer ohonynt yn debyg iawn i'w gilydd o
>ran eu lliw llwyd frown (cyfeiriad at ei gynefin yw "sandhill", nid at ei
>liw). Er na ddywed yr OED hynny, y tebyg yw fod "rustic" yn cyfeirio at
yr
>olwg arw ar batrwm eu lliwiau. Ymhlith y mathau o "rustic moth"
ceir "grey
>rustic moth" ac ni thalai dweud "gwyfyn llwyd" am hwnnw ac am y "sandhill
>rustic".
>
>Peryglus yw neidio i ddefnyddio "llwyd", gan y gall gyfateb i "grey, pale,
>dusky, wan, sallow" ac efallai y byddai angen gwahaniaethu'n fanwl.
Gellid
>defnyddio "garw" am "rustic" ond amheuaf y ceir gwyfynod y mae eu henwau'n
>cynnwys yr elfen "rough", felly mae perygl arwain i ddryswch.
>
>Er nad wyf yn bleidiol i ddilyn y Saesneg yn slafaidd, os glynir
at "rustic"
>= "gwledig", ac os dyweder "gwyfyn gwledig y twyni" ni fydd unrhyw
amwysedd,
>ac fe fydd pawb yn gwybod am ba beth yr ydys yn son.
>
>Bruce
|