Byddai'n drafodaeth lawer mwy addas na'r un am rawiau baw ar ddiwrnod y
daffyd-iliau.
Glenys
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 01, 2004 12:10 AM
Subject: Daffyd
Drwy gydol fy ngyrfa yn Lloegr deuthum ar draws y gair hwn yn feunyddiol.
Ymddangosai yn rheolaidd ar ddechrau e-byst, yn ystod bron bob sgwrs neu
drafodaeth, yn y swyddfa ac ar y ffôn, a hyd yn oed yn ystod y cyfnewidion
bychain byr hynny ar y ffordd i ginio neu i'r tŷ bach. Defnyddid y term
gan Saeson ac Americanwyr, cydweithwyr a chymdogion - a hyd yn oed y
wraig, sydd o dras Wyddelig. Hynny yw, pawb ond y ci. O dro i dro yn yr e-
byst gebyst i [log in to unmask] ymddangosai termau estron
eraill, megis Dafyyd, Daffyyd.a hyd yn oed Dafydd ambell dro. Ond 'roedd
Daffyd yn gyson ac yn rheolaidd.
Mae defnydd y gair yn lledaenu, nes i mi feddwl tybed a ddylem benderfynu
pa un yw'r ffurf fodern gywir - Dafydd ynteu Daffyd? Rhaid cael cysondeb,
yn rhaid? Yn ddiweddar pan ddaeth heddwas ar y teledu, ar raglen yn sôn am
ddirywiad canol y dref yn Abertawe, Daffyd oedd ei enw, yn ôl yr isdeitl
ar y sgrîn. Cyhoeddwyd pwt o lythyr yn yr Herald Gymraeg flwyddyn neu ddwy
yn ôl yn cwyno fod rhyw fath o gynllwyn Saesneg o gwmpas defnyddio'r gair,
ond mae hi'n anodd gennyf gredu hyn ar ôl 25ain mlynedd o ddod ar draws y
term bob dydd tra'n gweithio "i ffwrdd". Mae'n rhaid fod eglurhad
ieithyddol amdano - tybed oes na rywun am roi cynnig arni?
Daffyd
O.N. Gyda llaw, tydi'r gair hwn ddim mor broblematig yn Lloegr a "Fychan".
Pan adewais Gymru yn llanc ifanc o Lŷn, roeddwn yn benderfynol y
byddai'r
Saeson yn deall fod Cymru'n wahanol, felly aeth "David Vaughan" y
systificet enedigaeth yn "Dafydd Fychan". Dyna'r ffurf ymddangosodd ar
ddogfennau swyddogol o bob math, ac ymfalchïais yn y sioc ar wynebau
aelodau o'r gynulleidfa mewn un seremoni graddio wrth imi gerdded ar y
llwyfan a'r is-ganghellor yn ynganu'r "Fychan" yn groch, fel iddo swnio'n
hollol fel gair arall, mwy adnabyddedig a rhyngwladol...
|