Ymddiheuriadau am bostio mor hwyr. Mae'n bosib mai Rhos Fynach oedd hwn
ers talwm. Os ewch i'r wefan
http://www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/getamap/ a chlicio ar "Get a
map" cewch fap o Landrillo-yn-rhos drwy deipio "llandrillo" yn y
blwch ac yna dewis y llandrillo priodol. Mae "Rhos Point" ar y map. Yna
rhaid clicio ar "historic maps" a chewch fap o'r un fan yn dyddio o 1879,
lle gwelir yr enw "Rhos Fynach" ger y Trwyn. Wrth gwrs mae'n bosib nad y
Trwyn oedd hwn ond y tir gerllaw, ond mae'n werth gwybod am fodolaeth y
mapiau 'ma beth bynnag. Trwyn Rhos Fynach efallai?
Dafydd
On Thu, 18 Mar 2004 17:24:31 -0000, Garmon Davies
<[log in to unmask]> wrote:
>Rwyf wedi edrych ar wefan Cyngor Conwy a 'Rhos Point' sydd mewn dogfennau
>Cymraeg. A ydw i'n iawn i gymryd nad oes enw Cymraeg i'w gael o gwbl
felly,
>e.e. 'Trwyn y Rhos'?? Saesneg amdani felly? ..neu amdano..?
>
>
>
>Garmon
>
>
>
>Garmon Davies
>
>Ewrolingo
>
>+44 (0) 1656 668603
>
> <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk
>
>
>
>
|