Wel, ie. Ond bum yn meddwl beth fyddai’r sefyllfa petasai D. Lloyd George
wedi defnyddio’r ffurf Dafydd yn lle David. Dafydd Llwyd oedd enw taid
Lloyd George, ond Richard Lloyd oedd ei fab (ganwyd 1834). Yn ddiweddarach
y daeth y “Welsh not”, ond efallai bod ei ddylanwad yn parhau – bu Richard
Lloyd yn fyddar mewn un glust drwy gydol ei oes ar ôl cael ei drawo ar ei
ben am siarad Cymraeg yn yr ysgol.
|