Bu cryn drafodaeth yn y gorffennol am 'aquaculture', a chynigiwyd nifer o
dermau (dyfrddiwylliant, dyfryddiaeth, dyframaeth, dyframaethu, amaethu dwr
yn eu plith), ond y tro hwn enw penodol sydd gen i, a dwi'n gobeithio y bydd
*un* cyfieithiad swyddogol amdano (os oes fersiwn Cymraeg o gwbl). Dwi wedi
dod ar draws ambell gyfeiriad ato ar y we, ond dim byd yn y Gymraeg. Oes
unrhyw un yn digwydd gwybod, tybed?
Diolch
Gwen
|