Dwi'n cytuno efo ti Ann yn llwyr - am unwaith!
Ymateb lled bersonol ond perthynasol.
Dwi ddim yn meddwl fod eistedd o flaen sgrin am oriau bob dydd yn gwneud llawer o les i neb, a dwi'n afresymol o brysur y tu allan i fan hyn hefyd, OND ac mae hwn yn OND pwysig iawn.
Pan oeddwn i'n ymarfer Karate yn rheolaidd ac o ddifri, byddwn i allan o'r ty o 6.30 tan ryw 10. Mae hynny yn gwbl amhosib y dyddiau hyn, felly ers diwedd Tachwedd dwi wedi bod yn trio fy ngorau glas i wneud hanner awr o seiclo CALED bob dydd.
Hyd yma dwi wedi cwblhau 33 awr a rhyw 230 o filltiroedd ac yn teimlo - a gobeithio yn edrych - yn gan mil gwell.
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ffeindio hanner awr. Wrth wneud ymarfer aerobig - lle codir curiadau'r galon nes ymylu ar fod allan o wynt - mae gwaed llawn ocsigen yn cyrraedd pob man a'r ocsigen yn gweithio fel tanwydd i losgi braster a thonio cyhyrau.
Mantais arall ydy fod rhywun yn dal i fedru bwyta lot o bethau gweddol bleserus!
O ran cymryd toriad, mae rhai yn credu y dylid gadael yr ystafell bob dwy awr i gael awyr iach, ond wedyn mae rhywun yn risgio sylwadau sarci fel 'Ti allan o dy stafell eto! Oes gen ti ddim gwaith i'w wneud?'
Ymhen rhyw ugain mlynedd, fe ddown i gyd i ddysgu am y niwed mae gweithio ar y cyfrifiaduron hyn wedi ei wneud i ni a bydd hi'n rhy hwyr!
Yn iach - ar hyn o bryd -
John.
________________________________________________________________
Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it.
Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
|