"Penodiadau drwy Etholiad" sydd gen i am "contested appointments"
("Penodiadau Di-wrthwynebiad" am "uncontested appointments"). Wn i ddim pwy
sy'n gyfrifol am y termau, ond dwi heb weld angen eu newid.
-----Original Message-----
From: catrin.alun [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 02 March 2004 10:02
To: [log in to unmask]
Subject: If the election is contested
Ydy hi'n iawn i ddweud 'Os bydd mwy nag un ymgeisydd yn yr etholiad ....' -
neu oes angen cadw'n nes at gwreiddiol? Beth yw eich barn? (ar ffurflen
hysbysu etholiad cynghorwyr).
Catrin
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 02, 2004 9:33 AM
Subject: Daffyd
Dw i'n cytuno â damcaniaeth Annes yn y cyswllt hwn -- er nad ydyw'n esbonio
pam y mae'r enw 'Dafydd' yn cael ei gamsillafu gymaint yn amlach na'r rhan
fwyaf o enwau Cymraeg eraill.
Mae sylwadau Annes wedi f'atgoffa o hanes a glywais yn ddiweddar ynglyn â
Sais yn ardal Penygroes, Arfon, sydd yn arfer galw pentref Dolydd yn "Dolly-
dee-dee". O leiaf gall Dafyddiaid ein cenedl ymhyfrydu (am ryw hyd, o
leiaf) yn y ffaith nad ydynt yn cael eu galw'n "Daffy-dee-dee".
Wyn
|