Delyth,
Beth oedd y rheswm dros beidio ag argymell "islythrennau" i wneud pâr bach
twt gydag "uwchlythrennau"?
Oes cynsail dros ffurf sy'n defnyddio "bach-" yn rhagddodiad fel hyn?
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 05, 2004 12:12 PM
Subject: Re: case sensitive
> Trafodwyd y term 'case sensitive' mewn cyfarfod o Banel Safoni Termau
> Bwrdd yr Iaith ddoe.
> Cyd-destun 'case sensitive' oedd dewislen Chwilio o fewn rhaglenni
> prosesu geiriau a chwilio ar y we. Rydych chi'n cael y dewis i roi tic i
> ddweud a yw maint llythrennau yn bwysig yn y chwiliad (h.y. os ydych chi
> am chwilio am 'ELWa' ac nid am 'elwa' er enghraifft neu 'Cais' a nid
> 'cais').
> Penderfynwyd ar 'maint llythrennau' fel term safonol yn y cyd-destun hwn.
> Trafodwyd 'lower case' (l.c.) a 'upper case' (u.c.) fel termau
> cysylltiedig, a phenderfynwyd *mewn cyd-destun technegol pan nad yw
> 'llythrennau bach' a 'phriflythrennau' yn gwneud y tro* i ddefnyddio
> 'bachlythrennau' ac 'uwchlythrennau'.
> Cyn i neb holi, defnyddir 'isysgrif' ac 'uwchysgrif' am 'subscript' a
> 'superscript' felly ni ddylai'r termau hyn gael eu cymysgu gyda'r rheiny.
>
> Delyth
>
> --
> Delyth Prys
> e-Gymraeg / e-Welsh
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Cymru,Bangor /
> University of Wales,Bangor
> Bangor
> Gwynedd
> LL57 2DG
> [log in to unmask]
> +44 (0)1248 38 2800
|