> Gwn taw 'buanedd' yw'r term cywir yng nghud-destun symud, gyda 'cyflymdra'
> yn dynodi buanedd mewn perthynas â rhywbeth penodol (velocity yn yr iaith
> fain). P'un sy'n gywir yng nghyd-destun trosglwyddo data (didiau'r eiliad
> ayyb): 'buanedd islwytho' neu 'cyflymdra islwythyo'?
Mae angen gwneud y gwahaniaeth yn fathemategol ar gyfer Ffiseg a
Mecaneg. Mae cyflymder yn nodi cyfeiriad a mae'n bosib cael cael
cyflymder negatif.
Dyw'r nodweddion hyn ddim yn bodoli ar gyfer trosglwyddo data felly
mae'n well defnyddio 'cyflymder' yn ei ystyr cyffredin.
|