Onid y pwynt ydi mai dal y ffon yn y llaw wrth yrru mae rhywun, nid mai
hanfod y ffon ydi'i fod yn rhywbeth y mae rhywun yn ei ddal yn ei law?
Wedi'r cyfan, yr un un ydi'r ffon yn y llaw neu ar un o'r petha bach na
siawns? Y Saesneg sy'n fler, ynte, ac mae hi'n haws deud 'using a handheld'
yn yr iaith fain na deud 'holding a phone in the hand'. Dal y ffon yn eich
llaw wrth yrru? Does dim angen 'defnyddio'.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.577 / Virus Database: 366 - Release Date: 03/02/04
|