Does neb wedi cyfieithu'r term "case-sensitive" (sef testun yr ymholiad)
eto. Beth am "maint llythrennau'n bwysig"?
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 05, 2004 1:50 PM
Subject: Re: case sensitive
Ysgrifennodd David Bullock:
> Delyth,
>
> Beth oedd y rheswm dros beidio ag argymell "islythrennau" i wneud pâr bach
> twt gydag "uwchlythrennau"?
>
> Oes cynsail dros ffurf sy'n defnyddio "bach-" yn rhagddodiad fel hyn?
- dim cynsail hyd y gwn i. Argymhellion roddwyd yn fyrfyfyr oedden nhw
yn dilyn y drafodaeth ar welsh-termau-cymraeg, felly doedd yr aelodau
ddim wedi cael amser i ymchwilio ymlaen llaw.
Delyth
>
> ----- Original Message -----
> From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, February 05, 2004 12:12 PM
> Subject: Re: case sensitive
>
>
>
>>Trafodwyd y term 'case sensitive' mewn cyfarfod o Banel Safoni Termau
>>Bwrdd yr Iaith ddoe.
>>Cyd-destun 'case sensitive' oedd dewislen Chwilio o fewn rhaglenni
>>prosesu geiriau a chwilio ar y we. Rydych chi'n cael y dewis i roi tic i
>>ddweud a yw maint llythrennau yn bwysig yn y chwiliad (h.y. os ydych chi
>>am chwilio am 'ELWa' ac nid am 'elwa' er enghraifft neu 'Cais' a nid
>>'cais').
>>Penderfynwyd ar 'maint llythrennau' fel term safonol yn y cyd-destun hwn.
>>Trafodwyd 'lower case' (l.c.) a 'upper case' (u.c.) fel termau
>>cysylltiedig, a phenderfynwyd *mewn cyd-destun technegol pan nad yw
>>'llythrennau bach' a 'phriflythrennau' yn gwneud y tro* i ddefnyddio
>>'bachlythrennau' ac 'uwchlythrennau'.
>>Cyn i neb holi, defnyddir 'isysgrif' ac 'uwchysgrif' am 'subscript' a
>>'superscript' felly ni ddylai'r termau hyn gael eu cymysgu gyda'r rheiny.
>>
>>Delyth
>>
>>--
>>Delyth Prys
>>e-Gymraeg / e-Welsh
>>Canolfan Bedwyr
>>Prifysgol Cymru,Bangor /
>>University of Wales,Bangor
>>Bangor
>>Gwynedd
>>LL57 2DG
>>[log in to unmask]
>>+44 (0)1248 38 2800
>
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|