Dyma adran bwrpasol Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
122. - (1) The English and Welsh texts of any subordinate legislation made
by the Assembly which is in both English and Welsh when made shall be
treated for all purposes as being of equal standing.
(2) The Assembly may by order provide in respect of any Welsh word or
phrase that, where it appears in the Welsh text of any subordinate
legislation made by the Assembly, it is to be taken as having the same
meaning as the English word or phrase specified in relation to it in the
order.
(3) An order under subsection (2) may, in respect of any Welsh word or
phrase, make different provision for different purposes.
(4) Subordinate legislation made by the Assembly shall, subject to any
provision to the contrary contained in it, be construed in accordance with
any order under subsection (2).
Mae hynny yn golygu, os gwyrwn oddi wrth union testun Cymraeg y gyfraith, yr
un modd yn gymwys ac os crwydrwn oddi wrth y testun Saesneg, y bydd yr hyn a
ysgrifennwn yn ddi-rym. Canlyniad anochel hyn yw y bydd cyfreithwyr
cydwybodol yn gorfod rhybuddio cleientiaid rhag rhoi unrhyw bwys ar
ddogfennaeth Gymraeg gan fod ei hystyr yn rhy niwlog i dynnu unrhyw
gyfarwyddyd o gwbl ohoni.
Rhaid i mi gyfaddef fod llawer o eiriau ac ymadroddion cyfreithiol yn dān ar
fy nghroen - ond cyfleu ystyr yn fanwl gywir, nid plesio fy greddfau
esthetig i, yw diben y testunau yma.
Cwestiwn gwahanol, wrth gwrs, yw egluro ergyd testunau cyfreithiol mewn
iaith blaen.
Tim
-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 02 February 2004 13:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Subject to immigration control
Diolch Siān ac Eirian - dyna pam roeddwn yn gofyn. Dydw i ddim yn hoff o
gwbl o 'yn ddarostyngedig i' fel arfer mewn cyd-destun fel hyn. Mae'n bosib
cyfieithu 'subject to' mewn ffordd well yn y rhan fwyaf o achosion ond
doeddwn i ddim yn gallu meddwl am ffordd well. Y broblem gyda 'yn gorfod
mynd trwy gamau' hyd y gwelaf i yw bod 'subject to immigration control' yn
gallu golygu bod yr unigolyn yn gorfod cael caniatād a'r caniatād hwnnw heb
ei roi neu fod yr unigolyn *wedi* cael caniatād amodol. Mae'n gallu golygu
'mynd trwy gamau' er mwyn cael y caniatād neu adnewyddu'r caniatād ond mae
hefyd yn gallu bod yn 'gyflwr' sef y cyflwr yn dilyn unrhyw gais am ganiatād
- bod yr unigolyn heb gael caniatād neu wedi cael caniatād amodol. Mae'r
penderfyniad wedi cael ei wneud ac mae'r unigolyn yn gorfod derbyn ei
sefyllfa. Dyna pam roeddwn yn meddwl tybed yw 'yn ddarostyngedig i' yn
gwneud y tro yma. Gyda chynnig Eirian, gan mai unigolyn y cyfeirir ato, a
all unigolyn fod 'yn amodol ar' rywbeth? Efallai y gellid dweud bod
'presenoldeb yr unigolyn yn y wlad yn amodol ar (drefniadau) r(h)eolaeth
fewnfudo' neu fod yr unigolyn 'yn gaeth i amodau rheolaeth fewnfudo' ynteu a
yw 'caeth' yn ddewis anffodus yma?! Mmm...
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Youngman, Eirian
Sent: 02 February 2004 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Subject to immigration control
A fyddai 'yn amodol ar' yn gwneud y tro tybed?
Eirian Youngman
Uwch-gyfieithydd/Senior Translator
Canolfan Gymraeg San Helen/St Helen's Welsh Centre
(01792) 462067
> ----------
> From: Sian Roberts[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 02 February 2004 12:59
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Subject to immigration control
>
> Dydw i ddim yn hoff iawn o "yn ddarostyngedig i" - beth am rywbeth fel "yn
> gorfod mynd trwy gamau/broses rheoli mewnfudo"?
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
> Sent: 02 February 2004 11:17
> To: [log in to unmask]
> Subject: Subject to immigration control
>
>
>
> Mae sawl enghraifft o 'yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo' mewn
> dogfennau swyddogol ac ar y We - ai dyma'r cyfieithiad 'swyddogol'?
>
>
>
> Diolch yn fawr am unrhyw sylwadau,
>
>
>
> Garmon.
>
>
>
> Garmon Davies
>
> Ewrolingo
>
> +44 (0) 1656 668603
>
> www.ewrolingo.co.uk <http://www.ewrolingo.co.uk>
>
>
>
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|