> Trafodwyd y term 'case sensitive' mewn cyfarfod o Banel Safoni Termau
> Bwrdd yr Iaith ddoe.
Ar adegau lle mae rhaid cyfieithu
"the search is not case-sensitive"
Dwi'n dueddol o ddweud:
"Nid yw'r archwiliad yn gwahaniaethu rhwng prif lythrennau a
llythrennau bach"
Neu i'w wneud yn hollol amlwg i'r defnyddiwr:
"Fe allwch ddefnyddio prif lythrennau neu llythrennau bach - ni fydd
hyn yn effeithio canlyniad eich archwiliad"
Weithiau mae'n bosib rhoi fwy o wybodaeth na sydd angen ar
ddefnyddiwr. Does dim ots gen i os NAD yw archwiliad yn edrych ar
'gyflwr' llythyren (Prif lythyren, Acenion). Ond os yw'r peiriant
archwilio yn un gwael ac yn gwahaniaethu rhwng "Y Môr", "Y mor" ac "y
mor" yna mae'n bwysig mod i'n gwybod hynny.
Un peth arall.. nid yw Google yn rhoi esboniad ar ei dudalen
archwilio, ond mae ei tudalen cymorth yn dweud (cyfieithiad BYIG)
----
A yw prif lythrennau neu acenion yn bwysig?
Nid yw chwiliadau Google yn sensitif i lythrennau bras/llythrennau
bach. Bydd pob llythyren, pa wahaniaeth sut eu teipwyd, yn cael eu
trin fel rhai câs is. Er engraifft, bydd chwiliadau am "google",
"GOOGLE", a "GoOgLe" oll yn dychwelyd yr un canlyniad.
Nid yw chwiliadau Google yn sensitif i acenion na marciau
diacritical. Hynny yw, fe ganfu [Muenchen] a [München] yr un
tudalennau. Os am ddangos gwahaniaeth rhwng dau air defnyddiwch y
symbol + e.e. [+Muenchen] a [+München].
----
|