Swnio'n chwithig neu beidio, mae gen i lythyr o'm blaen sy'n cyfeirio at troseddu, troseddau, troseddaeth (criminality yn ôl GyG - jargonllyd o hyll mi wn, ond dyna ydi natur ein gwaith) a throsedd yn ystyr gyffredinol y gair "Crime", nid mewn ystyr unigol. Fedra i ddim defnyddio troseddu na throseddau, ac mae'n hollol amlwg o'r testun beth yw pwrpas y gair trosedd. Yn yr achos hwn felly, mae'n rhaid i mi ddefnyddio'r gair trosedd, mae'r ystyr "haniaethol" (os mai dyna ydi o) yn hollol amlwg.
Felly be'n union ydi'r broblem efo lleihau neu ostwng trosedd lle'r ystyrir y gair yn enw cynnull. Nid yw lleihau troseddu yn taro, fel oedd dy neges yn ei ddweud ddoe, oherwydd bod angen "cyflawni" neu "lefel" neu rywbeth rhwng y ddau air. Ac mae "troseddau" yn rhy amwys (neu'n cyfyngu gormod - mae'n dibynnu ar y cyd-destun). Gallaf weld y broblem efo'r gair trosedd hefyd - ond fel 'dw i wedi'i ddeud o'r blaen, rydym yn dod ar draws y gair trosedd yn aml, a'r unig ffordd gall o'i chwmpas hi derbyn trosedd fel "enw cynnull" (diolch Delyth am ddysgu term newydd sbon i mi).
Mae gan bawb ohonom ragfarnau (gweler *), ond weithiau mae'n rhaid derbyn fod yr iaith yn fyw ac yn newid. Faint ohonom all roi ei law ar ei galon a dweud na theipiwyd erioed y gair Gwerthuso ar ein allweddell (gan weddïo na fydd Bruce byth yn darllen y cyfieithiad)?
John
* Fi fwy na neb - peidiwch a dechrau son am Andrea Bocelli yn fy ngwydd i, er enghraifft, os nad ydych eisiau pregeth hir am ostwng safonau. Y drwg ydi, rydw i mewn lleiafrif yn ôl yr hyn a ddeallaf!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 25 February 2004 15:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: crime reduction
Doeddwn i'm yn darllen sylwadau Delyth fel rhyw ddadl gref o blaid defnyddio 'trosedd' yn y cyd-destun yma. Yr hyn mae hi'n ei ddweud yw 'NAD OES enghreifftiau clir o 'trosedd' fel enw cynnull yn GPC ond mae'n BOSIB iddo gynt gario ystyr felly' - mwy o ddadl yn erbyn nag o blaid? Dim ond dwy enghraifft o ddefnyddio 'trosedd' fel hyn sydd 'na yn GyG, sef Deddf Trosedd 1998 ac Anhrefn a Deddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997. Fel arall mae'n cynnig 'atal troseddau' ('atal troseddu' medde'r Cynulliad), 'cofnod troseddau', 'ton o droseddau' ac yn y blaen. Y peth pwysig yn fy nhyb i yw beth sy'n swnio'n naturiol a dealladwy. Mae'n hawdd colli golwg ar hynny wrth bendroni am 'dermau' a 'jargon'. Yn yr achos yma mae defnyddio 'trosedd' i gyfleu amryw byd o 'droseddau' (h.y. ei drin fel enw cynnull') yn swnio'n chwithig iawn i 'nghlust i.
----- Original Message -----
From: Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 25, 2004 1:41 PM
Subject: Re: crime reduction
> Weithiau mae'n rhaid symud efo'r lli, David.
>
> Google - "Troseddu a chosbi" - 1
> "Troseddau a chosbau" - 14
> "Trosedd a chosb" - 297.
>
> (ac mae dadl Delyth yn un dda iawn, mae'n rhaid deud)
>
> ----- Original Message -----
> From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:47 AM
> Subject: Re: crime reduction
>
>
> > Ystyr 'trosedd a chosb' o'i droi i'r Saesneg yw 'a crime and a
> punishment'.
> > Mae'n debyg bod y cwrs hanes am ichi astudio mwy nag un trosedd a
> > mwy
nag
> un
> > gosb, neu byddai'r cwrs drosodd mewn hanner gwers! Un ffordd o
> > fynegi
> hynny
> > yw dweud 'Troseddau a chosbau' ac un arall yw 'Troseddu a chosbi'.
> >
> > Mae'n drist - ond yn wir - nad yw'r pethau ryn ni'n eu hastudio at
> > TGAU (neu'n eu darllen mewn cyhoeddiadau swmpus) ddim bob amser yn
ddibynadwy.
> >
> > Mae angen gofal wrth apelio at "awdurdod" rhyw ddatganiad dim ond ar
> > y
> sail
> > ein bod wedi gweld y datganiad hwnnw mewn print - meddyliwch am
> > stwff
Iolo
> > Morganwg er enghraifft. Faint o awdurdod sydd i waith un dyn bach
> > yn gweithio ar ei ben ei hun, dim ond am mai fe yw'r unig un, neu'r
> > un
cyntaf
> > beth bynnag, i gyhoeddi rhywbeth? Mae'r hanesydd yn deall bod rhaid
> > i ffynonellau gael eu pwyso a'u mesur yn ofalus iawn cyn iddyn nhw
> > ennyn
> digon
> > o goel i gael eu disgrifio fel 'awdurdod'.
> >
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> > To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:24 AM
> > Subject: Re: crime reduction
> >
> >
> > > > Meddai Tegwen: "...mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o
> > > > flaen
> > berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth
> > fel 'gostwng lefel troseddu"
> > > >
> > > > Mae'n ddrwg gen i fod yn bedantig, ond dyna'r union reswm fyddwn
> > > > ni'n defnyddio "trosedd" yn hytrach na "troseddu".
> > >
> > > O'n i am nodi mai 'Trosedd a Chosb' oedd pwnc wnes i astudio
> > > nghwersi Hanes TGAU. Nid 'Troseddau a Chosbau' na ychwaith
> > > 'Troseddu a Chosbi'. Dwi' ddim cweit yn deall y rhesymeg dros
> > > ddefnyddio'r ferf.
> > >
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
|