'Troseddau' ddwedwn i hefyd lle bo mwy nag un trosedd (yn yr ystyr, yn
hytrach nag yn y Saesneg).
Gwen
-----Original Message-----
From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 25 February 2004 11:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: crime reduction
Ystyr 'trosedd a chosb' o'i droi i'r Saesneg yw 'a crime and a punishment'.
Mae'n debyg bod y cwrs hanes am ichi astudio mwy nag un trosedd a mwy nag un
gosb, neu byddai'r cwrs drosodd mewn hanner gwers! Un ffordd o fynegi hynny
yw dweud 'Troseddau a chosbau' ac un arall yw 'Troseddu a chosbi'.
Mae'n drist - ond yn wir - nad yw'r pethau ryn ni'n eu hastudio at TGAU
(neu'n eu darllen mewn cyhoeddiadau swmpus) ddim bob amser yn ddibynadwy.
Mae angen gofal wrth apelio at "awdurdod" rhyw ddatganiad dim ond ar y sail
ein bod wedi gweld y datganiad hwnnw mewn print - meddyliwch am stwff Iolo
Morganwg er enghraifft. Faint o awdurdod sydd i waith un dyn bach yn
gweithio ar ei ben ei hun, dim ond am mai fe yw'r unig un, neu'r un cyntaf
beth bynnag, i gyhoeddi rhywbeth? Mae'r hanesydd yn deall bod rhaid i
ffynonellau gael eu pwyso a'u mesur yn ofalus iawn cyn iddyn nhw ennyn digon
o goel i gael eu disgrifio fel 'awdurdod'.
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:24 AM
Subject: Re: crime reduction
> > Meddai Tegwen: "...mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o flaen
berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth fel
'gostwng lefel troseddu"
> >
> > Mae'n ddrwg gen i fod yn bedantig, ond dyna'r union reswm fyddwn
> > ni'n defnyddio "trosedd" yn hytrach na "troseddu".
>
> O'n i am nodi mai 'Trosedd a Chosb' oedd pwnc wnes i astudio
> nghwersi Hanes TGAU. Nid 'Troseddau a Chosbau' na ychwaith 'Troseddu a
> Chosbi'. Dwi' ddim cweit yn deall y rhesymeg dros ddefnyddio'r ferf.
>
|