Eitha gwir - meddyliwch am y Tylwyth Teg [sic] yn Shakespeare, heb sôn am y
Sí yn Iwerddon (banshee < bean sí = 'menyw o'r Tylwyth Teg).
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 04 February 2004 23:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Tooth Fairy
Trafodwyd "fairies" wrth drafod enw darn o gerddoriaeth "Dance for [fairies]
ar 12 Mawrth 2002.
Bryd hynny, ysgrifennais:
""Y Tylwyth Teg" (the Fair *Family"), enw torfol, yw Fairies. Yr unig
ffordd naturiol o gyfeirio at un yw "un o'r tylwyth teg", ond mae tylwythyn
teg/tylwythen deg *weithiau* yn cael ei ddefnyddio. Dw i'n meddwl y dylid
osgoi'r rhain ... " Ffurfiau ffug ydyn nhw.
Dywed Bruce mai "dyn bach yr eira" oedd yr hen enw ar Sion Corn ac felly, yn
yr un ysbryd uwchnaturiol, mae'n cynnig "dyn bach y dannedd", gan ofyn hefyd
pam y cymerir yn ganiataol bod y tylwyth teg yn ferched - dynion *a* merched
oedden nhw yn yr hen Gymru.
Mae'n debyg nad yw "fairies" oes Fictoria/Edward ddim yn perthyn i'r un byd
a^ Thylwyth Teg cefn gwlad Cymru yn fwy nag y mae Nia ben Aur a Peter Pan yn
perthyn i'r un byd bythol ifanc a'i gilydd.
Ann
----- Original Message -----
From: "Dyfrig Berry" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 04, 2004 8:19 PM
Subject: Re: Tooth Fairy
> Os gai fod mor rhyfygus a chyfrannu heb fod yn gyfieithydd proffesiynnol?
> Dwi wedi darllen mewn llyfr plant "Y Dylwythen Ddannedd"
>
> Dyfrig Berry
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Symons
> Sent: 04 February 2004 15:51
> To: [log in to unmask]
> Subject: Tooth Fairy
>
> Tylwyth Teg Dannedd ydy'r unig peth rydw i wedi cael ar y we. Oes
> unrhywbeth gwell?
>
> Unrhyw sylwadau?
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|