Dwy ddim yn gwbod am enw'r ysbyty, ond rwy'n cofio gofyn am Withybush, rai
blynyddoedd yn ôl, i aelodau'r pwyllgor oedd yn cynghori'r Swyddfa Gymreig
ar ffurfiau enwau i'w gosod ar arwyddion ffyrdd. Doedd dim ffurf Gymraeg
ddilys medden nhw.
Ffurf wneud yw Llwynhelyg, mae'n debyg, a honno wedi'i chreu efallai gan
ramantwyr a hoffai feddwl bod Cymraeg wedi bod yn cael ei siarad yn yr ardal
dan sylw ar ryw adeg. "Withybush" - gyda phwyslais ar y sillaf olaf gyda
llaw - sydd fwya cyffredin yng Nghymraeg y bobl dwi wedi cwrdd â nhw sydd
wedi symud o'r ardaloedd Cymraeg cyfagos i Hwlffordd i fyw.
Pan fydd rhywrai am gyfieithu Bryn Awelon yn Breeze Hill, ryn ni'n gyflym
iawn i amddiffyn hanes a sefyll dros yr enw gwreiddiol. Oes rhywbeth o'i le
ar gydnabod bod gan Gymru enwau lleoedd Saesneg hefyd?
----- Original Message -----
From: "Tiplady, Lisa (PO - RoP)" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 10, 2004 9:28 AM
Subject: Withybush General Hospital
> Rwy wedi gweld tipyn o anghysondeb yn y Gymraeg (Llwynhelyg, Llwyn Helyg,
> y Llwyn Helyg), ond beth yw enw swyddogol yr ysbyty??
>
> Diolch
> Lisa
>
> The original of this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis
in partnership with MessageLabs.
>
> On leaving the GSi this email was certified virus-free
|