Yn y cyd-destun yma, mae 'actively' bron yn gyfystyr ag 'o ddifrif' yn dydi?
Catrin
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 27, 2004 8:37 AM
Subject: Re: Actively
> Mae 'wrthi'n ...' yn gyfieithiad da o 'actively' ac yn llawer mwy
idiomatig
> yn y Gymraeg nag yw 'actively' yn Saesneg. Fe ddes i ar draws 'to be
> actively involved in the pursuance of ...' un tro, ac 'wrthi'n ...' oedd y
> cyfieithiad twt a ddefnyddiais. Gweler yr ysgrif gan y diweddar Robin
> Williams sy'n dwyn y teitl 'Wrthi' - os cofiaf yn iawn, dyna deitl y
llyfr
> sy'n cynnwys yr ysgrif. Tynnodd sylw at arfer pobl o ateb fel hyn: 'Be
'dach
> chi'n ei wneud?' (wrth ddyn sy'n gweithio yn ei ardd). 'O, dwi wrthi, 'wch
> chi.'
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 27, 2004 1:16 AM
> Subject: Actively
>
>
> > Newydd ddarllen y Guardian on Line http://www.guardian.co.uk/ sylwais ar
> > ddefnydd y gair 'Actively' yn y frawddeg isod ...
> >
> > ****Media: Two journalists who have refused to reveal their sources have
> > been told by Bloody Sunday inquiry chairman Lord Saville he is
> > *****'actively***** considering' legal action against them.***
> >
> > Dw i wedi gweld 'Actively' yn cael ei ddefnyddio droen yn ddi-bwrpas (yn
> fy
> > marn i) ac yn meddwl a fyddai'n iawn ei hepgor a'i gyfieithu fel 'yn
> > ystyried' - a yw 'actively' yn ychwanegu dim at yr ystyr neu a yw'n cael
> ei
> > ddefnyddio fel gair jargon?
> >
> > Muiris
> >
> >
> > ---
> > Outgoing mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.564 / Virus Database: 356 - Release Date: 19/01/2004
> >
>
|