Oni bai bod rhyw reswm arbennig dros chwilio am ddyfyniad cyfatebol - a go
brin bod un cwbl addas i gael - byddwn i'n cynnwys y dyfyniad Saesneg fel y
mae, neu'n ceisio'i drosi. Gan nad ydw i'n fawr o fardd (a dweud y lleia),
byddwn i'n ei adael yn Saesneg.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "annes" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 26, 2004 3:07 PM
Subject: a people without history
> Wedi mynd trwy Flodeugerdd o Ddyfyniadau Allan Llwyd a heb gael dim byd
> sy'n cyfateb. Englyn Gerallt Lloyd Owen yn cael peth o'r ysbryd (ella) -
> Dydd byr yw pob diwedd byd; - anadliad
> Yw cenhedlaeth hefyd;
> Nid yw Hanes ond ennyd;
> A fu ddoe a fydd o hyd
>
> ond nid y syniad o genedl heb hanes. Erbyn meddwl, tydi o'n ddim byd
tebyg!
> Sori!
>
> Annes
>
|