Ac "odrif" sydd yng NgyrA. Eto, ysgrifennodd Bruce y canlynol (ynghylch
rhyw profion) ychydig ddyddiau'n ol:
"Os ewch ar goll, ailgychwynnwch trwy geisio dod o hyd i dri rhif anghynifer
neu dri rhif cynifer ar ôl ei gilydd cyn gynted ag a ellwch."
'Rwyf newydd godi'r pwynt efo fo. Mae'n siwr, meddai fo, mai "odrif " oedd
mewn rhyw restr a dderbyniwyd wrth weithio ar GyrA, ond "anghynifer" a
ddefnyddiodd yntau wrth reddf yn y darn uchod, ac mae yn GPC hefyd - bydd
Bruce yn ei ychwanegu at argraffiad nesaf GyrA.
Ann
----- Original Message -----
From: "Arwel Wynn Owen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 13, 2004 10:50 AM
Subject: Re: anghynifer
> 'odrif' ac 'eilrif' yw'r termau a ddefnyddir yn y Termiadur Ysgol
>
>
>
> ARWEL OWEN
> TROSOL
> Ffôn/Phone: 01286 673 090
> Ffacs/Fax: 01286 673 093
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
> Sent: 13 January 2004 10:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: anghynifer
>
> Deuais ar draws y term hwn am "odd number" (ynghyd a chynifer am "even
> number").
> Ydi o yn "legit"?
> dafydd
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|