Ni welaf ba beth sydd o’i le ar “gornbilen”; nid bathiad diweddar mohono;
mae’n bod ers 1834 yn ôl GPC. Daw “cyfbilen” o “Dermau Meddygol, 1986.
Hyd y gwn i, ni chynigiwyd unrhyw beth gwell ar ei gyfer. Pilen (fewnol)
yr amrannau yw, yn ymestyn dros ran o’r llygad, o’r ansoddair Lladin
“conjunctiva” = cysylltiol. Anodd dychmygu bathiad Cymraeg na fyddai’n
*hwy* na “cyfbilen”, neu a fyddai’n haws ei ddeall. Y mae “cyfbilen” yn
fyrrach gair na “conjunctiva” ac o leiaf yn cyfleu mai rhyw fath o bilen
ydyw.
Ni welaf ba beth yw’r anhawster yn achos “llid y gornbilen a’r gyfbilen”
(nid yw hynny’n fwy trwsgl ac annealladwy na “keratoconjunctivitis”) nac o
ran hynny “cornbilenwst a chyfbilenwst”. Gellid Cymreigio “kerato-“ yn
“cerato-“, ond pa beth a wneid gyda’r elfen “conjunctivitis”? A ellid
dweud “ceratogyfbilenwst”? Gellid gadael y gair Lladin-Groeg fel y mae,
ond cyfieithu “atopic” fel “atopig”, “adenoviral” fel “adenofirol”, ond ni
ddeallaf “vernal”, sy’n golygu “gwanwynol”. Ai “cynnar” yw’r ystyr?
“tarsorrhaphy”: beth sydd o’i le ar ddweud “gwnio amrannau”? Os yw hynny’n
rhy naturiol ddealladwy, yna’r dewis arall yw “tarsorhaffi”. Cyfyd y
cwestiwn: at bwy yr anelir y cyfieithiad Cymraeg? At arbenigwyr, at gyw
feddygon, ynteu at y gwerinwr di-Saesneg?
Bruce
Original Message:
-----------------
From: Catrin Parri [log in to unmask]
Date: Tue, 6 Jan 2004 13:00:28 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Fw: Termau'r llygad
anfonaf yr ymholiad hwn ar ran Palmer Parry
----- Original Message -----
From: Palmer Parry
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, January 06, 2004 12:45 PM
Subject: Termau
Mewn dogfen dra thechnegol yn ymwneud ag anhwylderau'r llygad, defnyddiaf y
termau canlynol:
cornea - cornea (nid "cornbilen" na chornchwiglen!)
blepharitis - bleffaritis
marginal keratitis - ceratitis ymylol (mae'r rhagddodiad kerato- yn
cyfeirio at y cornea)
bulbar - bylbaidd (nid "oddfog")
etc.
Mae'r broblem ddyrys yn codi oherwydd defnyddio "cyfbilen" am
"conjunctiva", a'r arferiad o ddibynnu ar "llid y . . ." pan na ellir gosod
"-itis" yn dwt ar ddiwedd y gair i ddynodi cyflwr patholegol.
Felly, yr hyn sydd gan Bruce am "keratoconjunctivitis" yw naill ai
(i) "llid y gornbilen a'r gyfbilen"
neu (ii) "cornbilenwst a chyfbilenwst" (sy'n swnio fel enwau dau gawr!)
Go brin y gallaf ddefnyddio'r naill na'r llall mewn dogfen sy'n
gwahaniaethu'n gyson rhwng y canlynol:
atopic keratoconjunctivitis
vernal keratoconjunctivitis
adenoviral keratoconjunctivitis
Pe bai gennyf air Cymraeg am "conjunctiva" y gellid taro "-itis" ar ei ôl,
byddai'r broblem wedi ei datrys.
A oes gwell ateb na gadael "keratoconjunctivitis" fel y mae yn yr
enghreifftiau uchod? Gallaf wneud hynny gyda "keratoconjunctivitis sicca"
ar y sail ei fod yn derm Groeg-Lladin neu 'ryngwladol', ond mae'r
enghreifftiau eraill uchod yn swnio fel Saesneg yn hytrach na rhyngwladol.
Term arall yr wyf wedi ei adael fel y mae hyd yma yw "tarsorrhaphy", sef y
dechneg o wnïo'r amrannau ynghlwm wrth ei gilydd rhag i'r dagrau sychu'n
rhy handi! Beth ddylid ei wneud hefo hwn yn Gymraeg?
A oes gan rhywun syniad neu awgrym ar frys? (Dedlein bore Gwener!)
Message has been scanned by Webshield
--------------------------------------------------------------------
mail2web - Check your email from the web at
http://mail2web.com/ .
|