Onid Never-*Never* Land yw'r Saesneg (er nad wyf eirioed wedi darllen "Peter
Pan")? *Mae "Gwlad Byth Bythoedd" yng NGyr A.* Posibiliadau eraill yw
"Gwlad Hud [a Lledrith]", "Afallon", "Tir na Nog" (Dw i'n hoffi'r olaf, gan
ei bod yn wlad y bythol ifainc, ond, gan fod rhywbeth pendant yn y
Geiriadur, efallai ei bod hi'n well peidio a^ chymysgu chwedlau a chael
"Peter Pan meets Nia ben Aur").
Diolch am dynnu ein sylw at groesgyfeiriad o "walk" at "plank" yng NghyrA
nad yw'n arwain i unman!
Mae Bruce yn cynnig unrhyw gyfuniad o "cerdded y 'styllen", "troedio'r
planc" ayb.
Gyda llaw, mae Bruce yn cofio rhan o barodi a adroddwyd yn Ysgol Haf y Blaid
ym 1955, sy'n mynd rhywbeth fel y canlynol. A oes 'na unrhyw sy'n cofio
'chwaneg ac yn medru helpu ei achub o ebargofiant?
"'Roedd Barti Ddu yn ei gaban a'i wyneb yn sobor fel sant,
Yn yfed rwm fesul galwyn ac yn darllen 'Trysorfa'r Plant'
... a'r dec yn llifo gan waed,
A Barti Ddu gyda'i gytlas yn torri ewinedd ei draed."
Ann a Bruce
----- Original Message -----
From: "geoffrey fisher" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 23, 2004 11:38 AM
Subject: Never-Land/ Walk the plank
> Oes ymadroddion Cymraeg ar gyfer rhain ? Cyd-destun poster yn hysbysebu
amser stori
>
> "Peter Pan" yn y llyfrgell.
>
> Diolch
>
>
> Geoff
>
> Geoff
>
>
>
> ---------------------------------
> Do you Yahoo!?
> Yahoo! SiteBuilder - Free web site building tool. Try it!
>
> Message has been scanned by Webshield
>
Message has been scanned by Webshield
|