Cysylltais â Les Davies, hen gyfaill coleg a hanesydd lleol ardal Aberdâr, a
chael y wybodaeth isod ganddo:
'Llanwynno' yw enw swyddogol yr Eglwys yng Nghymru ar y plwyf. Cyn ei gywiro
i'r sillafiad cywir hwnnw yn ystod y 1960au, 'Llanwonno' (sic) fu ar glawr
yn
swyddogol gan yr Eglwys. Mae'r Comisiwn Coedwigo a Chomisiwn Brehninol
Henebion Cymru, er enghraifft, wedi arddel y sillafiad Cymraeg 'Gwynno' ers
blynyddoedd; ond, yn anffodus, rhaid pwyso eto ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i
fabwysiadu'r fffurf Gymraeg pan ddaw'r angen i adnewyddu arwyddion ffyrdd y
mannau neilltuol a enwyd.
Fel 'Llanwonno/Llanwynno' y cyfeirir at y plwyf yng nghofnodion swyddogol yr
Eglwys Anglicanaidd a gweinyddiad lleol fel ei gilydd. Dyna a arddelwyd
hefyd gan
lywodraeth leol o'r 1850au ymlaen, ond cyfeirio at hyd a lled y plwyf
canoloesol oedd y cofnodion neu'r sefydliadau hyn, ac nid at yr eglwys. Wrth
gyfeirio at helaethrwydd y plwyf cyfan y defnyddiwyd yr enw 'Llanwynno' ym
mhennill cyntaf y gân 'Koed Glyn Kynon' (sy'n dyddio o tua diwedd y 16G)
hefyd.
Hyd y gwelir, gwnaed gwahaniaeth cyson gan yr hen drigolion wrth gyfeirio at
y
plwyf (Llanwynno) ar y naill law a'r gysegrfan ar y llaw arall. Gelwid yr
olaf, gan amlaf, yn 'Eglwys Wynno' (neu 'Eglwyswynno' weithiau). Gwelir yr
arfer yn y pennill a ddyfynwyd gan un o gyfranwyr welsh-termau-cymraeg ("Hen
Eglwys Wynno hyglod..."). Byddai Glanffrwd bob amser yn gwahaniaethu rhwng
y plwyf (Llanwynno) a'r 'ecclesia' ei hun (Eglwys Wynno).
"St. Gwynno Forest": nid fforest hynafol mo'r goedwig binwydd helaeth a
elwir yn ôl yr enw cyntaf. Rhywbeth sy'n perthyn yn llwyr i ganol yr 20G yw.
Enw-gwneud diweddar yw "St Gwynno Forest" ac felly; pe bawn i'n dewis
enw-gwneud Cymraeg i gyfateb yn swyddogol iddo, 'Fforest Wynno' fyddai hwnnw
oherwydd: (i) mae'n ffitio patrwm yr enwau Cymraeg cynhenid sy'n cyfeirio at
y sant, a (ii) am ei fod yn cyfateb rhywfaint hefyd i batrwm ehangach yr
ardal (megis gyda'r ffermydd lleol Fforest Isaf/Fforest Uchaf, a
chyfeiriadau (teirgwaith) yn y gân a grybwyllwyd at "...fforest koed glyn
kynon". Ar y llaw arall, mae "Coed Gwynno" yn swnio'n naturiol a gweddus
hefyd.
Diolch i Les am ei sylwadau!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 20, 2004 12:51 PM
Subject: Re: St Gwynno Forest
Dw i'n cofio cael fy nysgu flynyddoedd yn ôl mai defnyddio enw'r sant/santes
yn unig gyda'r gair eglwys fyddai'n arferol h.y. os yw'r sant yn perthyn i'r
cyfnod Celtaidd/cyn-Sacsonaidd, felly byddai Eglwys Wynno yn swnio'n iawn i
fi a Choed(wig) Wynno efallai.
Nia
> ----------
> From: Sian Roberts[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 20 January 2004 12:17
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: St Gwynno Forest
>
> Newydd ffeindio gwefan hynod ddiddorol:
> http://www.estelnet.com/catalunyacymru/catala/sion_prys_016_llanwynno_01.h
> tm
>
> sy'n cyfeirio at yr eglwys fel "Eglwys Wynno" ac yn dyfynnu:
>
> Hen Eglwys Wynno hyglod, - a godwyd
> I gadw i'r Duwdod
> Wasanaeth melys hynod,
> A llawr glan allor Ei glod.
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|