Mae'n ddrwg gen i. I wneud pethau'n hollol glir; daeth Bruce yn ol, ar ol
imi bwyso botwm, ac ychwanegu y byddai fo yn tueddu i dreiglo yn yr achos
hwn.
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 14, 2004 11:25 AM
Subject: Re: Bioprocess Engineering
> Ymddiheuriadau na ofynnais i farn Bruce ar hyn o'r blaen. 'Roeddwn i'n
> gorfod codi negeseuon o gyfrifiadur diarth, ac erbyn y diwedd 'roedd yn
> cymryd cymaint o amser i agor pob neges (gan gynnwys y diolchiadau a
> sylwadau byrion), fel nad oeddwn i'n edrych ar bob dim. Mae pethau'n ol i
> normal erbyn hyn - gobeithio - a dyma sylwadau Bruce.
> Ann
>
> "Oes, ma 'na batrwn y *ceisiwyd* ei ddilyn yng NgyrA.
>
> Os yw'r ddwy elfen yn ddieithr, yn Roegaidd, er enghraifft, 'does dim
> treiglad ar ol "bio-" (neu unrhyw ragddodiad dieithr arall, megis
> "techno-"). Os yw'n gyfuniad o elfen ddieithr ac elfen Gymraeg (e.e.
> "bioddaearyddiaeth", tasai'r fath beth mewn bod), fe fyddai treiglad. Y
> cwestiwn, felly, yw a yw "prosesu" bellach i'w ystyried fel elfen Gymraeg,
> yn yr un modd ag y daeth "meddygaeth", "meddyg" a "meddyginiaeth" er eu
bod
> yn eiriau benthyg o'r Lladin, bellach yn hollol Gymreigaidd mewn ffurfiau
> megis "parafeddygol".
>
> Bruce"
> ----- Original Message -----
> From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 13, 2004 4:36 PM
> Subject: Re: Bioprocess Engineering
>
>
> > Quod est demonstratum!
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 13 January 2004 16:31
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: Bioprocess Engineering
> >
> >
> > Rwy'n deall ymateb Dafydd gan ein bod ni'n dweud 'biocemeg' ac amryw o
> > eiriau tebyg heb ystyried am eiliad fod angen treiglo. Beth, wedi'r
cyfan,
> a
> > ddigwyddai petaem yn treiglo'r llythyren 'm' yn y gair 'micromedr'? Fe
> > olygai microfedr
> > 'micro-skill' - sy'n beth hollol wahanol ...
> >
> > Wedi dweud hynny, 'microbrosesydd' sydd yn y Termiadur ac ar sail hynny
y
> > byddwn i'n dadlau dros y ffurf 'biobrosesu'.
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
> > To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, January 13, 2004 1:39 PM
> > Subject: Re: Bioprocess Engineering
> >
> >
> > > Rhaid i mi ddweud fod 'bioproses' yn swnio'n fwy naturiol i mi.
> > > dafydd
> > >
> >
> >
> > Message has been scanned by Webshield
> >
> >
> >
> >
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|