Beth am gadw 'diswyddo' i gyfleu 'dismissal' a defnyddio 'afreidiol' am
'redundant', 'afreidedd' am 'redundancy'. Felly rydw i wedi trio
gwahaniaethu ers tro byd, ac mae gen i syniad fod y termau hyn ar gael yn
rhai o is-ddeddfau'r Cynulliad hefyd.
----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 05, 2004 9:40 AM
Subject: Re: dismissal/redundancy
Gall diswyddiad ddigwydd am sawl rheswm (methu gwneud y gwaith, dwgid y prês
coffi, sarhau cwsmer pwysig, gwisgo esgidiau brown mewn angladd gwledig,
ayyb), ond gyda'r ail term yr honiad yw bod y gweithiwr yn ddiangen bellach.
Tim
-----Original Message-----
From: Hywel G Hughes [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 05 January 2004 09:38
To: [log in to unmask]
Subject: dismissal/redundancy
Sut mae gwahaniaethu rhwng y ddau yma gan mai 'diswyddo/diswyddiad' yw'r
gair Cymraeg am y ddau yn ol a welaf.
Hywel
|