Newydd holi'r meistr ei hun (wel, mae e yn y stafell drws nesa i mi yng
Nghanolfan Bedwyr). Decrheuwyd son am y peth rywbryd tua 1977 pan ddaeth
e'n ddirprwy brifathro Bodedern. Mae'n rhoi tipyn o'r bai ar Dafydd
Whitall hefyd - bu'r ddau ohonyn nhw wrthi mewn rhyw dafarn yn Llandudno
mae'n debyg (na, peidiwch a gofyn i mi beth oedd enw'r dafarn).
Am drafodaeth ddiweddar ar drawsieithu mae gan Colin Baker bennod
'Biliteracy and Transliteracy in Wales' yn 'Continua of Biliteracy' gol.
Nancy H. Hornberger ISBN 1-85359-654-X - dyna ni, hysbyseb ar ran Colin
a Cen.
Delyth
Ysgrifennodd David Bullock:
> O ran diddordeb academaidd yn unig, pryd dechreuodd Cen Williams sôn am
> drawsieithu?
>
> Roedd Gareth Edwards yn defnyddio'r dull a'r enw yma pan wnes i ryw hanner
> cwrs o ymarfer dysgu gydag e yn Aberystwyth yn 1985.
>
> (Fel dwedes i, pwynt academaidd yn unig yw hyn, a dim byd i wneud â dangos
> gymaint ar y blaen i Fangor yw Aber.)
>
> ----- Original Message -----
> From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 08, 2004 2:34 PM
> Subject: Re: trawsieithu
>
>
> Term a fathwyd gan Dr. Cen Williams yw 'trawsieithu' i ddisgrifio derbyn
> gwybodaeth mewn un iaith a'i defnyddio mewn iaith arall e.e. cael
> gwybodaeth mewn llyfr Saesneg a'i defnyddio fel sail i gyflwyniad llafar
> Cymraeg. Y term Saesneg cyfatebol yw 'translanguaging' - yr Athro Colin
> Baker sy'n gyfrifol am y bathiad hwnnw.
>
> Delyth
>
> Ysgrifennodd Alison Reed(Welsh Translator):
>
>>Stori Fer a Thrawsieithu - Rhan o faes llafur Cymraeg Ail Iaith Cyfnod
>>Allweddol 5.
>>
>>Unrhyw awgrymiadau plîs?
>
>
>
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|