Groundhopper - Ni restrir yr enw hyd yn oed yn y geiriaduron mwyaf, ond
rhestrir ef yn y "Penguin Dictionary of British Natural History", t. 121,
lle dywedai mai enw arall yw "grouse-locusts" (ar sail yr enw Lladin, mae'n
debyg {neu vice versa? - Ann}). Ceir ysgrif fanwl arnynt yn "The Oxford
Book of Insects", t.16.
I lygad yr anarbenigwr, pryfed digon tebyg i'r "ceiliog rhedyn" neu
"sioncyn/sboncyn y gwair". Ceir 3 rhywogaeth ym Mhrydain; yn anffodus, nid
oes yr un yn gallu "rhincian", felly byddai "ceiliog rhedyn main" neu "rhinc
main" yn anaddas iawn. Gellid galw'r "slender groundhopper" yn
"sioncyn/sboncyn main". Os oes y fath beth a "slender grasshopper", galwer
hwnnw'n "geiliog rhedyn main".
Erbyn ystyried, tebyg y bydd angen enw cyffredinol ar y teulu, e.e. "sioncyn
y llawr", felly byddai'r "slender ~" yn "sioncyn main y llawr", er y gallai
"sioncyn main" fod yn ddigon mewn cyd-destun diamwys.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2004 3:43 PM
Subject: Re: slender groundhopper
> Bruce/Anne,
> Diolch am y sylwadau. Mae o yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen. Ar ol
pendroni
> ac edrych ar ambell wefan a ffeindiais drwy Google (drwy roi "slender
> groundhopper" i mewn yn lle "groundhopper" er mwyn osgoi'r ffans peldroed
> Almaenaidd), rhoddais "sbonciwr main" er gwell neu er gwaeth. Ond dwi heb
> ryddhau'r cyfieithiad eto felly does dim byd yn derfynol!
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 21, 2004 2:35 PM
> Subject: Re: slender groundhopper
>
>
> Dyma sylwadau Bruce:
> Nac yn yr un geiriadur arall sydd gennyf. Cymeraf mai pryf o ryw fath
ydyw.
> Ai math o sioncyn y gwair? Os felly, "sioncyn main"? Pa beth yw ei enw
> Lladin?
>
> *Ond* 'rwyf wedi cael goleuni pellach ers iddo fynd allan, drwy Google
> Advanced Search ["slender groundhopper" -football (English only)].
"Tetrix
> subulata" yw'r enw Lladin. Mae'n un o'r Orthoptera, h.y. nid yn
> "Grasshopper", ond o'r un teulu. Mae sawl cyfeiriad, felly holaf Bruce
eto
> pan ddaw yn ol (cwpl o oriau).
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 21, 2004 10:17 AM
> Subject: slender groundhopper
>
>
> Does dim son am groundhoppers yng ngeiriadur Bruce - help plis!
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|