Gweler OED d.g. bonny-clabber ( a ffurfiau eraill), gair Eingl-Wyddeleg, o'r
Gwyddeleg "bainne" = llaeth, "claba" = trwchus. Diffinnir ef fel "Llaeth
wedi ceuluo wrth suro".
Daw "whipod" (neu "chwipod" yn Sir Feirionnydd) o'r Saesneg "whitepot".
Bruce
----- Original Message -----
From: "Hughes Hywel HG" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 30, 2004 12:59 PM
Subject: Re: Bonny Clobby
> Diolch Leslie am fanylder eich ateb - mae cyd-destun y darn yn cyfeirio'n
benodol at Wyl Mabsant ym Mhenrhyn Gwyr a oedd
> yn enwog am faint o'r pwdin hwn a fwytawyd,
>
> Hywel
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of staffdld
> Sent: 30 January 2004 12:23
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Bonny Clobby
>
>
> Dyma ymateb i ymholiad "Hywel" ynghylch "Bonny Clobby" ("math o bwdin
Dolig
> oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant ers talwm"). Byddwch oddefgar,
> bawb, am nad wyf yn 'perthyn go-iawn' i'ch cymdeithas o gyfieithwyr
> proffesiynol; ac, ar wahan i drafod yr enw "St Gwynno Forest" gyda Berwyn
rai
> dyddiau nôl, dyma'm cyfraniad cyntaf i'ch stôr o wybodaeth !
>
> Wrth gwrs, rhaid nodi nad yw'r Nadolig a gwyliau mabsant o angenrheidrwydd
yn
> gyfystyr â'i gilydd. Caf fy hun yn tybied, felly, p'un a yw "pwdin Dolig"
yn
> ddisgrifiad priodol o rywbeth a ddarperid mewn gwyliau mabsant ar draws y
wlad
> ac ar hyd y flwyddyn (gan gynnwys yr haf a'r hydref) yn ol patrwm amrywiol
> iawn o fabsanta lleol ?
>
> Yr argraff a gaf oddi wrth yr enw "Bonny Clobby" (sy'n swnio braidd yn
Eingl/
> Albanaidd i mi) yw taw pwdin at wyl(iau) oddi allan i Gymru oedd hwn: taw
nid
> rhywbeth o ardaloedd Seisnigedig hanesyddol Cymru (De Penfro, Bro Gwyr,
Bro
> Morgannwf isaf, parthau mwyaf dwyreiniol Mynwy a Maesyfed) oedd. Nid yw
Hywel
> yn dweud hyn yn glir, ond dyna'r argraff a geir. Ai cywir hyn ? A beth am
> arwyddocâd yr enw ? Ai "da/llesol/gwych" yw "Bonny" ? Ac ai llurguniad o
> "clobber" ("stwff/deunydd/ defnyddiau") yw "Clobby" ? Hynny yw "Bonny
Clobby"
> = "Stwff Da" [at bwdin] - (gan obeithio nad oedd yn tagu!).
>
> A beth am gyfatebiaeth yn Gymraeg ?
>
> Ceir digon o sôn yng ngwahanol hanesion plwyf Cymru am baratoi a darparu
> pastai at fabsant neu wyl leol. Diau bod enghreifftiau ym mhob ardal. Yn
yr
> ardal hon (gogledd Cwm Cynon), mae David Davies (Dewi Cynon), awdur Hanes
> Plwyf Penderyn (1905 a 1924) yn gwahaniaethu rhwng y "Gwyl Mabsant...(a
fu)
> mewn bri gynt...(ac a) ddechreuai, fel rheol, yr wythnos gyntaf o Dachwedd
> (ac) a pharheuai am bythefnos...(cyn dod i ben) tua...1866" (1905,
tt.92-3) ar
> y naill law, a Gwyl Gynog - sef gwyl nawddsant penodol y plwyf - a
gynhelid
> "ar y 7fed Hydref..." (t.92) ar y llaw arall.
>
> Yn y mabsant, dywed Dewi Cynon y "Darperid Pastai ar yr Wyl"; am Wyl
Gynog,
> sut bynnag, dywed Dewi Cynon fel a ganlyn:
>
> "Yn yr hwyr cynnelid gwledd fawreddog... Yr ymborth a arferid ddarparu ar
yr
> wyl hon oedd math o bwdin a elwid "Y Whippod", yn gyfansoddedig o fara,
> raisins, curants, a siwgr, yn gymmysg, wedi eu berwi mewn llaeth. Byddai y
> teuluoedd o'r dosbarth uchaf drwy y lle yn darparu digon o "Whippod" ar
gyfer
> y nos hono. Y diweddaf a gadwodd yr arferiad i fyny...oedd y diweddar Mrs.
> Catherine Jones o'r Ysguborfawr, tua'r flwyddyn 1840 neu 1850"
(literatim).
>
> Dyma, felly, enghraifft o bwdin-gwyl ag enw Cymraeg (o fath) a baratöwyd
yn
> benodol at wyl nawddsant lleol (er bod hanesydd y plwyf yn gwahaniaethu
rhwng
> yr wyl honno a math arall o wyl a gynhelid fis yn ddiweddarach ac a elwid
yn
> "fabsant" ganddo). Cwestiwn diddorol sy'n codi, wrth gwrs, yw tarddiad
> ieithyddol yr enw "whippod". Ond mater i ieithegwyr, nid hanesydd
ieithgar, i
> ddyfalu yn ei gylch yw hwnnw !
>
> Leslie Davies, Aberdâr.
>
>
>
>
>
> >===== Original Message From Discussion of Welsh language technical
> terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
> =====
> >Math o bwdin Dolig a oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant erstalwm.
> >A oes rhywun yn gwybod a oes enw Cymraeg arno?
> >
> >Diolch
> >Hywel
>
> PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
>
> On entering the GSI, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Energis
Communications in partnership with MessageLabs.
>
> GSI users see
http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for further
details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk.
>
> The original of this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis
in partnership with MessageLabs.
>
> On leaving the GSi this email was certified virus-free
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|