Siān,
Rwy'n credu mai "rhyddidau" sydd yn y canllawiau i'r cynghorau lleol ar y
Ddeddf Hawliau Dynol a gafodd eu cyhoeddi gan y Cynulliad sbel fach yn ōl.
Roedd yna lot o drafod wrth gyfieithu'r rheiny a oedd angen ffurf luosog,
beth fyddai orau ar gyfer 'rights' (hynny yw y dewis rhwng 'hawliau' ac
'iawnderau') ac ati, ac mae llawer iawn o ddeunydd yn y canllawiau... ond
dwy ddim yn gwybod ble ar wefan y Cynulliad y maen nhw.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 05, 2004 2:19 PM
Subject: freedoms
Rwy'n cyfieithu'r Datganiad Teyrngarwch i Ddinasyddion Prydeinig newydd ac
mae'n cyfeirio at "rights and freedoms". Rwy'n gweld "rhydidau" (GPC)
a "rhydd-didau" (GyrA) yn eiriau dieithr iawn ond "rhyddid mewn gwahanol
feysydd" braidd yn llac. Unrhyw gynigion?
Hefyd, a oes rhywun wedi cyfieithu'r Datganiad/canllawiau etc o'r blaen?
Cofion
Siān
|