Dyma ymateb i ymholiad "Hywel" ynghylch "Bonny Clobby" ("math o bwdin Dolig
oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant ers talwm"). Byddwch oddefgar,
bawb, am nad wyf yn 'perthyn go-iawn' i'ch cymdeithas o gyfieithwyr
proffesiynol; ac, ar wahan i drafod yr enw "St Gwynno Forest" gyda Berwyn rai
dyddiau nôl, dyma'm cyfraniad cyntaf i'ch stôr o wybodaeth !
Wrth gwrs, rhaid nodi nad yw'r Nadolig a gwyliau mabsant o angenrheidrwydd yn
gyfystyr â'i gilydd. Caf fy hun yn tybied, felly, p'un a yw "pwdin Dolig" yn
ddisgrifiad priodol o rywbeth a ddarperid mewn gwyliau mabsant ar draws y wlad
ac ar hyd y flwyddyn (gan gynnwys yr haf a'r hydref) yn ol patrwm amrywiol
iawn o fabsanta lleol ?
Yr argraff a gaf oddi wrth yr enw "Bonny Clobby" (sy'n swnio braidd yn Eingl/
Albanaidd i mi) yw taw pwdin at wyl(iau) oddi allan i Gymru oedd hwn: taw nid
rhywbeth o ardaloedd Seisnigedig hanesyddol Cymru (De Penfro, Bro Gwyr, Bro
Morgannwf isaf, parthau mwyaf dwyreiniol Mynwy a Maesyfed) oedd. Nid yw Hywel
yn dweud hyn yn glir, ond dyna'r argraff a geir. Ai cywir hyn ? A beth am
arwyddocâd yr enw ? Ai "da/llesol/gwych" yw "Bonny" ? Ac ai llurguniad o
"clobber" ("stwff/deunydd/ defnyddiau") yw "Clobby" ? Hynny yw "Bonny Clobby"
= "Stwff Da" [at bwdin] - (gan obeithio nad oedd yn tagu!).
A beth am gyfatebiaeth yn Gymraeg ?
Ceir digon o sôn yng ngwahanol hanesion plwyf Cymru am baratoi a darparu
pastai at fabsant neu wyl leol. Diau bod enghreifftiau ym mhob ardal. Yn yr
ardal hon (gogledd Cwm Cynon), mae David Davies (Dewi Cynon), awdur Hanes
Plwyf Penderyn (1905 a 1924) yn gwahaniaethu rhwng y "Gwyl Mabsant...(a fu)
mewn bri gynt...(ac a) ddechreuai, fel rheol, yr wythnos gyntaf o Dachwedd
(ac) a pharheuai am bythefnos...(cyn dod i ben) tua...1866" (1905, tt.92-3) ar
y naill law, a Gwyl Gynog - sef gwyl nawddsant penodol y plwyf - a gynhelid
"ar y 7fed Hydref..." (t.92) ar y llaw arall.
Yn y mabsant, dywed Dewi Cynon y "Darperid Pastai ar yr Wyl"; am Wyl Gynog,
sut bynnag, dywed Dewi Cynon fel a ganlyn:
"Yn yr hwyr cynnelid gwledd fawreddog... Yr ymborth a arferid ddarparu ar yr
wyl hon oedd math o bwdin a elwid "Y Whippod", yn gyfansoddedig o fara,
raisins, curants, a siwgr, yn gymmysg, wedi eu berwi mewn llaeth. Byddai y
teuluoedd o'r dosbarth uchaf drwy y lle yn darparu digon o "Whippod" ar gyfer
y nos hono. Y diweddaf a gadwodd yr arferiad i fyny...oedd y diweddar Mrs.
Catherine Jones o'r Ysguborfawr, tua'r flwyddyn 1840 neu 1850" (literatim).
Dyma, felly, enghraifft o bwdin-gwyl ag enw Cymraeg (o fath) a baratöwyd yn
benodol at wyl nawddsant lleol (er bod hanesydd y plwyf yn gwahaniaethu rhwng
yr wyl honno a math arall o wyl a gynhelid fis yn ddiweddarach ac a elwid yn
"fabsant" ganddo). Cwestiwn diddorol sy'n codi, wrth gwrs, yw tarddiad
ieithyddol yr enw "whippod". Ond mater i ieithegwyr, nid hanesydd ieithgar, i
ddyfalu yn ei gylch yw hwnnw !
Leslie Davies, Aberdâr.
>===== Original Message From Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
=====
>Math o bwdin Dolig a oedd yn cael ei fwyta mewn gwyliau mabsant erstalwm.
>A oes rhywun yn gwybod a oes enw Cymraeg arno?
>
>Diolch
>Hywel
|