Rwy'n cofio Urien William flynyddoedd yn olyn ceisio gwahaniaethu rhwng
'perfformiad' (enghraifft o berfformio e.e. mewn drama) a 'perfformiant'
(rhywbeth rydych hi'n adrodd amdano mewn adroddiadau ysgol) - ond wnes i
erioed ddeall y gwahaniaeth. Mae'r terfyniad '-iad' yn aml yn cael ei
ddefnyddio i wneud enw o ferf e.e. torri/toriad, canu/caniad, lle mae
blas 'gweithredu' yn cael ei gadw. Mae '-iant' yn cael ei ddefnyddio i
enwi 'pethau' (ar batrwm 'peiriant'?) e.e. gyriant, trosiant- enwau
haniaethol yn aml.
Ond rwy'n ceisio osgoi defnyddio'r ddau derm i wahaniaethu rhwng
gwahanol ystyron wrth safoni termau, gan mod i'n meddwl fod hynny'n rhy
ddryslyd (wel, rwy'n drysu beth bynnag).
Delyth
Ysgrifennodd Gareth A. Bevan:
> A oes gwahaniaeth rhyngddynt?
> Gareth
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|